dwfr oedd y bwyd, a phigo oakum (tynnu hen raff dar galed oddi wrth ei gilydd) oedd y gwaith. Cymerwyd fy hances oddi arnaf rhag i mi ymgrogi; ond i'r gwrthwyneb, teimlais ryw ollyngdod calon rhyfeddol, a medrais ganu'n rhydd gan wybod na allent wneud fawr mwy ond fy nghrogi. Cofiaf pan oeddwn yno, glywed curiad distaw ar y drws, ac wedyn llais yn sibrwd, "Y mae crac yng ngwydr eich ffenestr, a daw darn ohono yn rhydd, a rhof ddarnau o fara drwy'r twll." Ni welais fyth wyneb y cyd-garcharor trugarog, ond cawsom lawer sgwrs ddistaw drwy'r twll yn y ffenestr. Wedi dychwelyd i'm cell gyffredin, teimlais fod ofn a chosb yn llygru holl gymdeithas y carchar ac yn magu twyll ac ystryw- iau ar bob llaw, wrth geisio sibrwd a chynllunio â'n gilydd. Gofynnais am gael gweled y Llywodraethwr, a dywedais wrtho fy nheimlad, ac na allwn bellach geisio cuddio cyd-ymddiddan; ac felly y bwriadwn ymddwyn yn agored a naturiol, heb amarch iddo ef na'r swyddogion, ond er mwyn achub fy nynoliaeth. Atebodd yn sarrug, "Chwi a gymerwch y canlyniadau." Trannoeth, yn y gwaith, tra oedd y ceidwad a'n gwyliai yn troi yn sydyn ar ei sawdl a cheisio dal y rhai oedd yn sibrwd, troais a siaradais yn agored â'm cyd-garcharor. Gwysiwyd fi drachefn gerbron y Llywodraethwr, a chefais ddau ddiwrnod yng nghell y gosb, ond erbyn hyn yr oedd y gosb wedi colli ei grym. Digwyddodd hynny droeon.
Un nos Sadwrn oer cyn y Nadolig, a'r eira yn disgyn y tu allan, agorwyd drws cell y gosb, a daeth Ustus Heddwch i mewn. Dywedodd yn gwrtais wrthyf iddo glywed fy mod dan gosb, ac na theimlai yn esmwyth i fyned i'w gartref heb ofyn i mi ail-ystyried fy anufudd-dod i reol y carchar, a cheisio ymdaflu yn erbyn cyfundrefn mor gadarn. Diolchais iddo am ei hynawsedd, ond eglurais fy mod eisoes wedi ystyried y cam yn bwyllog ac yn bryderus. Yna dywedodd, "A gaf fi ofyn fel ffafr bersonol i chwi ei ail-ystyried?" Atebais innau fod ei ddull gwrtais o ofyn yn ei wneuthur yn anodd iawn dal, oni bai fy mod yn ei ystyried yn ddyletswydd. Yna safodd a dywedodd, "A gaf fi ysgwyd llaw â chwi?" Yn wir, anodd oedd cadw'r dagrau yn wyneb cyfarchiad mor frawdol a chyfaddefiad o'r undeb dynol oedd