rhyngom. Diolchais iddo o galon; ni wyddwn ei enw, ac ni welais ei wyneb mwy, ond yr oedd ei ddynoliaeth hael yn agor y galon a'r gell led y pen.
Gwysiwyd fi yn y diwedd i ymddangos ger bron yr Ustusiaid, a gwyddwn mai ganddynt hwy oedd hawl y gosb eithaf, sef fflangellu. Wrth sefyll ger y barrau haearn gyda'r Prif Geidwad, dywedodd wrthyf, "Paham na allwch fod fel y lleill? Ni waeth gen' i pe baech yn siarad, ond i chwi beidio â gwneud hynny yn fy ngwydd i."
Atebais, "Onid ydych i gyd yng ngharchar yma; ni fynnwch wneuthur drwg i mi, na'r ceidwaid eraill; ond y maent hwy yn eich ofni chwi, a chwithau yn ofni'r Llywodraethwr, ac yntau'n ofni rhywun arall." Wedi egluro fy nhrosedd gerbron yr Ustusiaid, cyfeiriais at y ffaith, y digwyddais ddarllen amdani ym Mywyd Richard Cobden gan John Morley, fod penodiad yr Ustusiaid wedi ei drefnu gan Fesur Diwygiad y Carchardai a gyflwynwyd i'r Senedd gan eu cyd-ddinesydd enwog Joseph Chamberlain. Y bwriad ydoedd diogelu'r carchardai rhag annynoliaeth. Dywedais fod gorfodaeth o ddistawrwydd llwyr am fisoedd lawer, ar gannoedd o ddynion, yn annynoliaeth ddofn, ac yn magu ystrywiau a thwyll, ac yn llygru ysbryd a moes y carcharorion o ddydd i ddydd.
Gofynnodd y Cadeirydd, "Onid gwell a mwy synhwyrol a fyddai i chwi ufuddhau i'r drefn yn awr, ac wedi eich rhyddhau geisio diwygio y rheol?"
Atebais na allwn ymysgwyd o'r ddyletswydd i wneuthur yr hyn oedd yn fy nghyfle yn awr, er mor fychan ydoedd, ac erfyn arnynt hwythau ei ystyried yn ddwys a gweithredu yn ôl eu hawl.
Atebodd y Cadeirydd gyda gwên, "Sut y gwyddoch nad ydym yn gweithredu?"
"Os felly," meddwn, "cyrhaeddwyd fy amcan."
Y mae rheol annynol distawrwydd carchardai bellach wedi ei ddiwygio ers llawer dydd, a chlywais mai Ustusiaid Birmingham oedd yr arloeswyr wrth ddod â'r mater ger bron y Swyddfa Gartref. Nid post hoc propter hoc,[1] yw hyn wrth gwrs, ond "aml gnoc a dyrr y garreg."
- ↑ ar ôl hyn (felly) oherwydd hyn