DYDDIAU'R GAETHIWED
Wedi bod am fisoedd yng ngharchardai Wormwood Scrubbs, Knutsford a Dartmoor, symudwyd nifer ohonom i wersyll gwaith ar y ffordd fawr yn Llanwrda. Wrth deithio trwy orsaf Caerdydd gwelais wyneb hen gyfaill a adwaenwn, a chipiais foment o'r tren i ysgwyd llaw ag ef. Synnodd fy ngweled a gofynnodd, "O ba le y deuthoch?" Atebais mai o garchar Dartmoor. Yna trodd at y wraig oedd yn siarad ag ef a dywedodd, "Yr ydych yn adnabod eich gilydd." A Dame Margaret Lloyd George ydoedd. Ond yr oedd mor siriol ag y gwelais hi lawer tro wedyn, ac yn llawn o garedigrwydd. Yn Llanwrda, yr oedd swyddog o'r Swyddfa Gartref, hen sergeant major, yn ein gwylio; "cartrefol" a fuasai'r gair olaf i ddisgrifio'r gwersyll. Cysgasom naw mewn pabell, a gweithiasem am ddeng awr yn y dydd am bedwar swllt yn yr wythnos o gyflog ar drwsio'r ffordd fawr a thorri cerrig. Yn ein cwmni yr oedd Sosialwyr, Comiwnyddion, Ysgotiaid, Saeson, ac efrydwyr y Weinidogaeth. Sgotyn o'r Ucheldiroedd oedd yn coginio i ni mewn dull na welsai neb ei debyg ond efô ei hun. Yn sicr, cawsai ei ddiarddel o'i swydd oherwydd y mynych gwyno am flas y bwyd oni bai ei fod yn rhoddi ei gopa gwalltog coch trwy ddellt y babell a dweud yn ei acen ddwys, "Os bydd gan unrhyw foneddwr gŵyn yn erbyn y bwyd, yr wyf yn barod i ddadlau'r mater gydag ef y tu cefn i'r cook-house." Etholwyd fi'n gadeirydd, wedi i mi egluro'n gyntaf mai fy mholisi a fyddai trin pob dyn fel cyfaill nes iddo droi yn elyn, ac wedyn ei drin fel cyfaill. Etholwyd is-gadeirydd i'm cadw yn fy lle, sef Atheist amlwg, darlithydd i'r Rationalist Association, gŵr yr oedd crefydd gyfundrefnol fel cadach coch i darw iddo, er nad oedd nepell o'r Deyrnas yn ei ddelfrydau am degwch, a gonest- rwydd, a dyletswydd. Y pechod a oedd yn barod i amgylchu Heddychwyr o'r fath oedd grwgnach a thuchan am iawnderau, a bygwth streic am hyn neu'r llall. Yr oedd pledio heddwch a chyfiawnder cyffredinol yn haws na'u gwneuthur a'u gweithredu ar fwyd mor wael, gwaith mor hir, a thâl mor fychan. Nid oedd ein ceidwad, dan y Swyddfa Gartrefol, yn ddirwestwr amlwg, ac felly cafodd y troseddwyr