Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III

HEDDWCH FERSAI

Llythyr Arglwydd Lansdowne. Gobeithion Heddwch. Y "Fourteen Points." Y Cadoediad. Yr Etholiad Cyffredinol. Y Gynhadledd Heddwch. Newyn yr Almaen. Cyngor Lloyd George. Cwyn y Gorchfygedig. Gorfodi'r Cytundeb. Adladd yr Heddwch. Northcliffe.

LLYTHYR YR ARGLWYDD LANSDOWNE

YN y cyfamser cynhyrfwyd y byd politicaidd gan ymgais am heddwch drwy gymod yn Nhachwedd 1917 gan neb llai na'r Ardalydd Lansdowne, cyn-Weinidog Tramor Prydain. Cyhoeddodd lythyr yn y Daily Telegraph, a wrthodwyd gan y Times, ar Amcanion Rhyfel y Cynghreiriaid. Tywalltwyd ar y llythyr a'i awdur gan Wasg Northcliffe y sarhad mwyaf, gan ei ddisgrifio fel peace at any price, ac esgymunwyd yr Ardalydd "yn swyddogol," yn ôl ei ddisgrifiad ei hun, gan y Blaid Geidwadol. Datguddiwyd ymhen blynyddoedd gan ei fab fod cynnwys ei lythyr wedi ei anfon i'r Cabinet yn gyfrinachol yn Rhagfyr 1916, a bod Arglwydd Grey wedi bwriadu i Dŷ'r Arglwyddi ei drafod yn ddirgel, ond cwympodd y Llywodraeth Ryddfrydol yn fuan a daeth Llywodraeth y Glymblaid yn ei lle. Mwy na hynny, cyn i'r llythyr ymddangos yn y Wasg yr oedd Arglwydd Balfour wedi ei weled ac yn fodlon ar ei gyhoeddi. Perwyl y llythyr oedd bod y rhyfel wedi parhau yn rhy hir a bod gwareiddiad a dynoliaeth yn galw am ei ddibennu. Yr oedd hufen y ddynoliaeth yn cael ei golli, a'r dioddefaint yn lledaenu at filiynau o ddynion gwrol a difai. Yr oedd y galwadau am heddwch buddugoliaethus a thelerau caled i'w gorfodi ar y gorchfygedig yn chwarae i ddwylo'r gelynion. Credai y buasai gwerinoedd yr Almaen ac Awstria yn barod i afael ar unwaith mewn cynnig gweddol deg ac y buasai'r cynnig yn gosod pwys anwrthwynebol ar eu llywodraethau. Dywed-