Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd wrth eu pobl gan eu llywodraethau ein bod am eu difetha a'u gostwng, a dryllio eu hysbryd, a gorfodi math estron o lywodraeth, a'u hesgymuno o fasnach y byd. Ni ddywedwyd, efallai, y fath bethau gan ein Llywodraeth, ond yr oedd erthyglau ein Gwasg yn ei gwneud yn hawdd i Lywodraeth yr Almaen ledaenu syniadau o'r fath. Rhaid oedd darbwyllo gwerin yr Almaen o'r ofnau a'r bygythion hyn, a datgan telerau teg a chyfiawn i heddwch. Dyna oedd neges y llythyr.

Cyfododd y llythyr storm o enllib yng Ngwasg Northcliffe—y Times a'r Daily Mail a phapurau eraill, yn erbyn syniadau oedd, ynddynt eu hunain, yn rhesymol, Cristnogol a cheidwadol, gan wladweinydd o'r pwys a'r profiad mwyaf. Yr oedd ysfa'r Wasg a'r werin am waed a dial wedi meddwi'r genedl, ac nid oedd wrthglawdd yn yr eglwysi i'r diluw du. Felly plygwyd i'r storm o enllib, a pharhaodd y rhyfel am flwyddyn yn ychwaneg gyda'r canlyniad o ingoedd a newyn i filiynnau yn ddiwahaniaeth, hyd onid arweiniodd o'r diwedd i ryfel newydd.

Gwerthfawrogwyd llythyr Arglwydd Lansdowne gan wŷr cyfrifol fel C. P. Scott, golygydd y Manchester Guardian. Dywed ei fywgraffydd:

"Cymerodd Lansdowne y cam dewraf yn y rhyfel. Yr oedd ei lythyr fel araith Campbell Bannerman ar 'foddion barbareiddiwch' pan oedd pwerau llethol o deimlad y dorf yn gormesu gwŷr cyhoeddus. Yr oedd dylanwadau y rhyfel yn difoesoli ein bywyd cyhoeddus a'n Gwasg yn amlwg iawn. Ni bu enllib erioed mwy anystyriol, anrheswm erioed mor wyllt, a drwgdybiaeth erioed mor greulon."

C. P. SCOTT.

GOBEITHION HEDDWCH

Cofnododd C. P. Scott ambell ymgom â Lloyd George yn y dyddiau hynny a ddengys fel yr oedd yntau ac aelodau'r Cabinet yn cloffi rhwng dau feddwl ynghylch heddwch trwy gymod neu trwy fuddugoliaeth. Adroddai eiriau Lloyd' George wrth frecwast yn Rhagfyr 1917:

"Y mae cryn dipyn o deimlad yn y Cabinet Rhyfel i gyfeiriad heddwch —nid yw Balfour yn gwrthwynebu ac y mae Milner yn fwy tueddol i heddwch na neb. Nid yw Carson mor dreisiol o bell ag yr ymddengys, ond pan yw'n gwneud areithiau. . . . Rhaid i mi eich rhybuddio fy mod