Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cadfridogion, yn wyneb protest gref cynrychiolwyr yr Almaen, yn yr un cerbyd-rheilffordd, a than yr un sarhad a chywilydd ag a brofodd cynrychiolwyr Ffrainc yn 1940 a oedd dan orfod i wynebu Hitler a swyddogion milwrol buddugoliaethus yr Almaen.

Mawr fu'r canu clychau ym Mhrydain wedi'r Cadoediad. Gwahoddwyd y Senedd i wasanaeth o ddiolchgarwch; darllenodd yr Archesgob eiriau Eseia Ixi.:

"Efe a'm hanfonodd i rwymo dolur y torcalonnus, i gyhoeddi rhyddid i'r caethion ac agoriad carchar i'r rhai a rwymwyd. Cyfodent yr hen ddiffeithleoedd a hwy a atgyweiriant y dinasoedd a ddifethwyd."

Y CADOEDIAD

Gosodwyd telerau'r Cadoediad gan y swyddogion milwrol. Hawliwyd o'r Almaen 5,000 o ynnau mawr, 30,000 o ynnau peiriant, 2,000 o awyrblanau, 5,000 o beiriannau rheilffordd; 150,000 o wagenni rheilffordd, a 5,000 o gerbydau modur, ac yn ddiweddarach lynges a llongau’r Almaen. Daliwyd y Gwarchae (blockade) mewn grym er gwaethaf taer rybudd llywodraeth newydd a gwerinol yr Almaen fod perygl newyn enbyd, a rhybudd Wilson fod Awstria a'r Almaen mewn anarchiaeth, a rhybudd y Manchester Guardian fod bwydo'r bobl yn anhepgorol i drefn a heddwch. Oherwydd prinder y peiriannau a'r wagenni rheilffordd a drosglwyddwyd i Ffrainc, anodd ydoedd i'r Almaen ddosbarthu'r bwyd a oedd eisoes yn y wlad; gwaharddwyd hwy rhag pysgota ar y môr. Sylwodd y Times, a oedd dan awdurdod Northcliffe, nad oedd gan y Cynghreiriaid unrhyw fwriad o gwbl i liniaru'r dirwasgiad a'i fod yn brif arf i sicrhau arwyddo "heddwch cyfiawn." Cyfiawnhawyd hyn gan y Wasg yn gyffredinol, a gorfoleddodd rhai o bapurau Northcliffe ym manylion y darfodedigaeth, typhus a dysentry a oedd yn ysgubo'r wlad ac yn difetha cenhedlaeth y plant a'r ieuainc. Ni laciwyd dim ar laddfa'r diniwed hyd oni dderbyniodd y Prif Weinidog, ym Mawrth 1919, bellebr oddi wrth y Cadfridog Plumer o Cologne yn hysbysu, ar ran y Fyddin Brydeinig yno, ac yn cwyno "mor ddrwg ydoedd yr effaith ar y Fyddin Brydeinig wrth weled dioddefaint gwragedd a phlant yr Almaen."