Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr ydym yn dal i orfodi'r blocád gydag ynni, ac y mae'r Almaen yn agos iawn at newyn. Dengys yr holl dystiolaeth a gefais gan swyddogion y Swyddfa Ryfel a anfonwyd dros yr Almaen (1) y prinderau mawrion a ddioddefir gan bobl yr Almaen; (2) bod perygl cwymp holl gyfundrefn gymdeithasol a chenedlaethol yr Almaen dan bwysau newyn a diffyg ymborth."

Yr un diwrnod cyhoeddodd Mr. Churchill y byddai angen gwario 440,000,000p. ar y Fyddin Brydeinig y flwyddyn honno, sef deuddeg gwaith gymaint â chyn y rhyfel, a gorfodwyd yr Almaen i gyfyngu ei byddin i gan mil o wŷr arfog. Erfyniodd yr Almaen yn daer am addewid o fwydydd, os oedd raid iddi drosglwyddo ei llongau i'r buddugoliaethwyr. Dadl y Times ar hyn ydoedd, "Os yw'r Almaen mor agos at newyn hi a ildia i'n gofynion." Yr unig brotest o bwys ydoedd protest y fyddin Brydeinig a welodd ingoedd gwragedd a phlant Cologne bob dydd. Wrth ddarllen neges y Cadfridog Plumer, dywedodd Mr. Lloyd George wrth y Cynghrair: "Foneddigion, ni ellwch ddweud bod y Cadfridog Plumer yn pro-German." O'r diwedd, ofnai'r Ffrancwyr rhag i newyn ac anarchiaeth drosglwyddo'r wlad i'r Bolshefiaid. Yn ôl y Daily News ar y pryd:

"Nid oes amheuaeth am y ffeithiau. Y mae'r amgylchiadau dychrynllyd yn yr Almaen yn hollol hysbys i Lywodraethau'r Cynghrair oddi wrth adroddiad swyddogol a benodwyd ganddynt. Y mae'r genedl yn marw o'r newyn sydd wedi ei orfodi arnynt am fisoedd wedi'r Cadoediad. Y mae'n weddol sicr bod mwy o'r boblogaeth siful wedi marw o'r canlyniadau nag a laddwyd ar feysydd y rhyfel. Mewn rhai mannau y mae 90 yn y cant o beiriannau'r rheilffordd wedi eu cymryd oddi arnynt (8 Mawrth).

O'r diwedd penderfynwyd gollwng bwydydd iddynt, ar y telerau eu bod yn talu amdanynt 11,000,000p. mewn aur, ac yn trosglwyddo llynges yr Almaen. Yn Ebrill 1919 codwyd y gwarchae hefyd ar y gwledydd niwtral, Holand, Denmarc, Sweden, Norwy ac Yswisdir, ar yr amod nad oeddynt i allforio nwyddau i'r Almaen.

Yn yr Unol Daleithiau yr oedd yr Arlywydd Wilson wedi erfyn yn daer ar iddynt gyflawni y delfrydau a'r addewidion a gyhoeddwyd fel amcanion crwsâd America wrth fyned i ryfel, ond codwyd gwrthwynebiad cryf gan yr Wrthblaid. Yn y cyfamser, cwympodd Llywodraeth Hungari dan ym- osodiad y Bolshefiaid chwyldroadol. Yn y Balcanau yr oedd