Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Groeg yn lledaenu ei thiriogaethau ar draul ei chymdogion, yr Eidal am feddiannu Fiume, a Siapan rannau helaeth o Sina. Ofnai cynrychiolydd y Manchester Guardian ar y pryd rhag i'r Gynhadledd Heddwch

"ddiweddu mewn cytundebau nas cedwir gan neb. Y mae'r gwylwyr yma yn myned i'w gwelyau noson ar ôl noson yn glaf gan anobaith neu lid."

CYNGOR MR. LLOYD GEORGE

Ym Mawrth 1919 anfonodd Mr. Lloyd George Femorandwm Cyfrinachol i Lywodraethau'r Cynghreiriaid gyda'r rhybuddion a ganlyn:

"Chwi ellwch amddifadu'r Almaen o'i thiriogaethau, gostwng ei byddin i nifer heddgeidwaid gwlad, a'i llynges i eiddo Gallu o'r bumed radd. Er hynny, yn y diwedd, os bydd hi'n teimlo iddi gael ei thrin yn annheg yn 1919, fe geisia foddion i gael iawn gan ei gorchfygwyr. Dibynna cadwraeth heddwch ar symud achosion y dicter a fo'n cynhyrfu ysbryd gwladgarwch, cyfiawnder a thegwch nes unioni'r cam. Ni faddeuir ac nid anghofir anghyfiawnder ac ymffrost a ddangosir ar awr y fuddugoliaeth. Am y rhesymau hyn, yr wyf yn gwrthwynebu'n gryf drosglwyddo ychwaneg o'r Almaenwyr o lywodraeth yr Almaen i reolaeth rhywun arall. Y mae cynigiad Comisiwn Pwyl am inni ddodi dwy filiwn o Almaenwyr dan reolaeth pobl o grefydd wahanol, sydd heb ddangos erioed allu hunan-lywodraeth sefydlog, yn sicr, yn ôl fy marn i, o arwain yn hwyr neu yn hwyrach i ryfel yn Nwyrain Ewrop. Buaswn felly yn gosod ar flaen yr heddwch, unwaith y derbynnir ein telerau, ac yn enwedig yr iawndal, y bydd inni agor iddi farchnadoedd a nwyddau crai ('raw materials') y byd ar delerau hafal â ni ein hunain ac y gwnawn bob peth posibl i alluogi gwerin yr Almaen i godi ar ei thraed drachefn."

SIGNOR NITTI (Peaceless Europe).

Mewn canlyniad i'r datganiad dewr a phroffwydol hwn, codwyd storm ym Mhrydain dan gymhelliad papurau Northcliffe a Bottomley, ac anfonwyd pellebr wedi ei arwyddo gan 203 (fe ddywedodd y Daily Express 370) o Aelodau Seneddol y Glymblaid i wrthdystio, a galwyd y Prif Weinidog yn ôl at addewidion yr etholiad, a gwneuthur i'r Almaen dalu "holl gostau" y rhyfel. Ymhlith arwyddwyr y gwrthdystiad yr oedd gwŷr mor amlwg fel crefyddwyr â Syr Samuel Hoare a'r Major Edward Wood (Arglwydd Halifax yn awr). Cyn i'r ultimatum yma gyrraedd, yr oedd Lloyd George wedi ymuno gyda Wilson i wrthwynebu rhai o ofyn-