Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion mwyaf afresymol Ffrainc a'r Eidal. Protestiai Wilson fod y 14 Pwynt yn cael eu hanwybyddu; ar un adeg galwodd am ei long-ryfel, y George Washington, i'w gludo yn ôl o'r gynhadledd i'r America. Ond yr oedd Clemenceau fel adamant gan wybod mor ansefydlog oedd safle Wilson a Lloyd George, oherwydd gwrthbleidiau eu gwledydd eu hunain.

Gorfoleddai Northcliffe yn y Times am fod neges y 203 A.S. wedi cadw Lloyd George at ei orchwyl a'i addewidion yn yr etholiad a rhag ei bolisi "ansicr ac ansefydlog." Hawliodd y Times iawndal am bob colled o bob math a phensiynau i filwyr y rhyfel oddi ar yr Almaen. Archwyd Llywodraeth Werinol yr Almaen i arwyddo'r Cytundeb Ebrill 25. Ar fin yr amser, ciliodd cynrychiolwyr yr Eidal o'r Gynhadledd fel gwrthdystiad am wrthod eu cais am Fiume, darn o Iwgo Slafia, ac o Dalmatia. Dadlennwyd ganddynt fod Cytundeb cyfrinachol y Cynghreiriaid wedi addo hyn i'r Eidal yn nechrau'r rhyfel er ei fod yn hollol groes i amcanion cyhoeddedig y rhyfel, sef amddiffyn cenhedloedd bychain. Cadwyd cynrychiolwyr yr Almaen mewn gwesty arbennig a weiren bigog o'i amgylch. Yn y Gynhadledd, Mai 7, gosodwyd hwynt i eistedd wrth fwrdd ar wahan. Dywedwyd wrthynt gan Clemenceau fod telerau'r heddwch mewn llyfr a drosglwyddwyd iddynt i'w arwyddo; ni chaniateid trafodaeth a gosodwyd 15 niwrnod o ras cyn ei arwyddo.

CWYN Y GORCHFYGEDIG

Dyma rannau o ateb y Count Brockdorf-Rantzau ar ran yr Almaen:

"Foneddigion, teimlwn gyfrifoldeb dwys y dasg aruchel o ddod â heddwch parhaol i'r byd. Nid ydym dan rith unrhyw anwybodaeth am faint ein gorchfygiad ac am ddiffyg ein gallu, Gwn fod gallu arfau'r Almaen wedi ei dorri. Gwyddom allu'r casineb a gyfarfyddwn yma, a chlywsom angerdd y gofyniad y bydd i'r buddugoliaethwyr fynnu i ni dalu fel y gorchfygedig, a chosbi y rhai a haedda eu cosbi. Hawliwyd gennym gyffesu mai nyni'n unig sydd euog o'r rhyfel. Buasai'r fath gyffes yn fy ngenau yn gelwydd. Yr ydym yn bell o ymwrthod â'n rhan am gyfrifoldeb am y rhyfel mawr ac am y ffordd y'i gweinyddwyd. Bu agwedd llywodraethau blaenorol yr Almaen yng Nghynhadledd Heddwch yr Hague, ei weithredoedd a'i wallau yn y deuddeng niwrnod trychinebus