Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yng Ngorffennaf 1914, yn sicr yn cyfrannu i'r galanastra, ond gwadwn yn gryf fod yr Almaen, a oedd yn credu ei bod yn ymladd mewn hunan- amddiffyniad, yn euog yn unig.... Y mae'r farn gyhoeddus yng ngwledydd ein gwrthwynebwyr yn diasbedain gyda'r troseddau y dywedir i'r Almaen eu cyflawni yn ystod y rhyfel; ond yn y dull o wneuthur rhyfel nid yr Almaen yw'r unig un sydd euog. Gall nad oes esgus i anfad- waith mewn rhyfel ond fe'i gwneir yn yr ymdrech am fuddugoliaeth, ac wrth amddiffyn bodolaeth y genedl fe ollyngir nwydau sydd yn pylu cydwybod y bobloedd. Ond fe laddwyd mewn gwaed oer gannoedd o filoedd o wŷr anymladdol a drengodd er Tachwedd 11 o achos y dirwasgiad, wedi i'n gwrthwynebwyr orchfygu a sicrhau buddugoliaeth. Meddyliwch am hynny pan soniwch am euogrwydd a chosb. Ni ellir datgan mesur euogrwydd y rhai a gymerodd ran ond gan ymchwil ddiduedd ger bron llys niwtral. Erfyniwn am y fath ymchwil. Ond nid ydym yn hollol heb amddiffyn. Chwychwi eich hunain a ddaeth a chynghrair i ni, yr hawl a sicrhawyd gan y Cytundeb, gan egwyddorion yr heddwch. Yn yr amser rhwng Hydref 5 a Thachwedd 5, gwrth-dyngodd Llywodraethau y Cynghreiriaid heddwch o drais ac ysgrifennwyd 'Heddwch Cyfiawnder' ar eu baneri. Ar Hydref 5 cynigiodd Llywodraeth yr Almaen egwyddorion Arlywydd yr America fel sail heddwch, a Tachwedd 5 datganodd Mr. Lansing fod Pwerau y Cynghreiniaid yn cytuno ar y sail hwn, gyda dau cyfnewidiad. Daeth egwyddorion yr Arlywydd Wilson felly yn ymrwymol i'r ddwyblaid i'r rhyfel-chwychwi a ninnau a'n Cynghreiriaid. Cyrhaeddir nod Cynghrair y Cenhedloedd yn unig i'r rhai sydd ag ewyllys da trwy ager ei byrth yn llydan, ac yna yn unig y sicrheir nad ofer a fu marwolaeth y rhai a gwympodd. Y mae'r heddwch na ellir ei amddiffyn yn enw cyfiawnder ger bron y byd yn galw am wrthwynebiadau newydd. Ni all neb ei arwyddo gyda chydwybod dda oherwydd na ellir ei gyflawni."

Canmolwyd y telerau heddwch gan y Wasg a chan arweinwyr crefyddol a gwleidyddol yn y wlad hon, oddigerth ambell un fel Philip Snowden, A.S., a ddywedodd ar y pryd:

"Dylasai'r Cytundeb foddhau gwylliaid, Imperialwyr a militarwyr. Dyrnod angeuol yw i'r rhai a ddisgwyliodd i ddiwedd y rhyfel ddod â heddwch. Nid Cytundeb Heddwch mohono ond datganiad newydd o ryfel. Bradwriaeth yw o weriniaeth ac o'r rhai a gwympodd yn y rhyfel. Datguddia wir amcanion y Cynghreiriaid."

Ofnai'r Daily News ein bod "yn lladd yr ŵydd ac yn disgwyl am yr wyau aur" gan ein bod yn hawlio arian a llongau'r Almaen, traean o'i glo, a thair ran o bedair o'i haearn, a'u gosod dan orfod i gymryd nwyddau Ffrainc yn ddi-doll, ond i oddef i Ffrainc godi unrhyw doll. Gosodwyd 2,000,000 o Almaenwyr dan iau Pwyl a 3,000,000 o Awstriaid dan Tsieco-Slofacia.

Cododd adwaith mawr yn yr Unol Daleithiau, a galwyd