Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan Ryddfrydwyr yno am i'r America wrthod arwyddo'r Cytundeb a Chyfamod Cynghrair y Cenhedloedd ar y tir ei fod yn troseddu'r egwyddorion a gyhoeddwyd yn ei henw ac yn safoni trosedd a cham gwrth-ryddfrydol.

Gwrthdystiwyd hefyd yn naturiol gan bapurau Sosialaidd a gwerinol yr Almaen, megis Vorwarts:

"Y mae heddwch o'r fath yn ceisio difodi ein cenedl nid ag arfau ond gan gaethwasiaeth economaidd fwystfilaidd."

Yn enwedig gwrthdystiwyd yn erbyn cyflwyno i Ffrainc 140,000 o wartheg godro tra cedd miliynau o'r plant yn newynu. Yn ôl y Manchester Guardian ar y pryd:

"Ni all gweithiwr wneud diwrnod o waith ar y bwyd a dderbyn. Y mae'r darfodedigaeth a chlefydau o'r fath yn cynyddu'n arswydus. Y mae'r plant mewn cyflwr truenus. Y mae llawer o'r babanod a aned yn y blynyddoedd diwethaf heb brofi llaeth erioed."

GORFODI'R CYTUNDEB

Mai 14 cyfarfu'r Prif Gyngor Economaidd, dan lywyddiaeth yr Arglwydd Robert Cecil, a chyhoeddwyd ganddo fod yr holl drefniant yn barod i orfodi'r dirwasgiad manylaf os byddai i'r Almaen wrthod arwyddo'r Cytundeb Heddwch. Gwrthododd Clemenceau liniaru dim ar y telerau, er bod Lloyd George yn awyddus i ildio i rai o erfyniadau'r Almaen. Anfonwyd llongau awyr dros yr Almaen; paratowyd y Llynges; daliwyd y llongau bwyd rhag hwylio i'r Almaen. Cynghorwyd Senedd yr Almaen gan y cynrychiolwyr i beidio ag arwyddo'r cytundeb fel yr oedd; ond penderfynwyd gan y mwyafrif ei dderbyn gan fod y werin newynog yn galw am heddwch ar unrhyw delerau. Cwympodd y Llywodraeth a chariwyd o'r diwedd fesur i arwyddo'r Cytundeb gan 237 pleidlais yn erbyn 138, a chan wrthod cydnabod y frawddeg a ddywedai mai'r Almaen yn unig oedd yn gyfrifol am y rhyfel. Rhybuddiwyd hwynt y byddai'r byddinoedd yn symud trannoeth onid arwyddid y Cytundeb yn ddi-oed. Neges olaf Llywodraeth yr Almaen, Mehefin 24, ydoedd:

"Yn ildio i rym gorlethol, ond heb roddi i fyny ein hargyhoeddiad o anghyfiawnder digyffelyb telerau'r heddwch, datgana Llywodraeth Werinol yr Almaen ei bod yn barod i arwyddo'r telerau heddwch a orfodir gan Lywodraethau'r Cynghreiriaid."