Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swyddogol Trysorlys Prydain yn Fersai, yn erbyn rhaib annynol a ffol y mesurau economaidd:

"Ffaith anghyffredin ydoedd mai problem sylfaenol economaidd, Ewrop yn newynu ac yn andwyo ger bron ein llygaid, oedd yr un cwestiwn nad oedd modd deffro diddordeb y 'Pedwar Mawr' iddo. . Am y polisi o ostwng yr Almaen i gaethwasiaeth am genhedlaeth, o ddiraddio miliynau o fywydau dynol, ac o amddifadu cenedl gyfan o hapusrwydd, dylasai hyn fod yn wrthun ac yn ffiaidd, hyd yn oed pe byddai'n bosibl, a phe bai iddo ein cyfoethogi ninnau, a phe na byddai iddo hau dirywiad holl fywyd gwareiddiedig Ewrop.

"Fe'i pregethir gan rai yn enw Cyfiawnder." Yn nigwyddiadau mawrion hanes dyn, ac yn natblygiad cymhleth tynged cenhedloedd, nid yw cyf- iawnder yn beth mor syml. A phe byddai, nid awdurdodir cenhedloedd gan na chrefydd na moesau naturiol i ymweled â phlant eu gelynion gamwri eu rhieni a'u llywodraethwyr.

"Yr iawndal ydoedd prif-wibdaith y Pedwar Mawr i faes economaidd, a phenderfynwyd ef fel problem diwinyddiaeth, gwleidyddiaeth, ystrywiau etholiadau, ac o bob safbwynt ond dyfodol Gwladwriaethau yr oedd eu tynged yn eu dwylo . . . Ni bydd i ddynion drengi'n dawel bob amser, canys y mae newyn, sydd yn dod â difaterwch ac anobaith i rai, yn gyrru tymherau eraill i ansefydlogrwydd nerfus ac i wallgofrwydd anobaith. Ac fe all y rhain yn eu cyfyngder ddymchwel gweddillion trefn a boddi gwareiddiad ei hun yn eu hymdrech orffwyllog i ddigoni angen gorlethol yr unigolyn. Dyna'r perygl a ddylasai grynhoi ynghyd ein holl adnoddau, a'n gwroldeb a'n delfrydau.

(Economic Consequences of the Peace: Tachwedd 1919).

ADLADD YR HEDDWCH

Nid hir y bu'r buddugoliaethwyr heb brofi gwirionedd yr ychydig o broffwydi economaidd a gwleidyddol nas boddwyd gan ddilyw dial y Wasg a'r dorf. Yn wir yr oedd yr anarchiaeth economaidd a moesol yn achos, nid yn unig i ddiffodd gobeithion ac amcanion y Gwerin Lywodraethau newydd yn Awstria a'r Almaen, ond i ddatblygu Comiwnyddiaeth a Ffasgaeth eithafol. Ymledodd ysbryd trais yn agos ac ymhell -yn Iwerddon agos fel yn America. "Sylweddolais," meddai C. P. Scott, "fod holl bolisi y 14 Pwynt wedi eu gollwng yn llwyr gydag ymoddef eu hawdur.

Nid hir y bu'r canlyniadau gwleidyddol ac economaidd heb ddisgyn ar Gymru. Difodwyd ymron yr hen Ryddfrydiaeth a fu mor uchel ei delfryd ac mor llwyr ei buddugoliaeth yn 1906 yn yr adweithiad i Ryfel De Affrica. Erbyn 1921 disgynnodd canlyniadau'r heddwch drud ar gymoedd