Asyn, Yr
Mae ar Asyn, er mor isel—ydyw,
Drem gwyliedydd anwel:
Ato arfer fwynder, fel
Nas dengys Duw Ei angel.
—William Roberts (Gwilym Eryri)
Asyn Balaam
Dwyfoli safn mud filyn—a fedr Nef,
I droi'n ol wr cyndyn:
Iaith Ior, i gondemnio'r dyn,
Gynwysa genau asyn!
—David Roberts (Dewi Havhesp)
Atebiad i'r gofyniad anffyddol—"A oes Duw yn bod?"
Ust! adyn! onid oes Duwdod—yn llon'd
Pob lle yn dy wyddfod,
A difeth, hyglyw dafod
O dy fewn yn dweyd ei fod!
—Owen Griffith Owen (Alafon)
Atebiad y Parch. D. Gravel i'r Parch. R. Bonner
Mewn hyder, Bonner, 'rwy' yn byw—yn Nghrist—
Fy nghraig rhag y distryw:
Fy adail, Efe ydyw,—
Ty a ddeil y tywydd yw.
—Robert Parry, Plas Tower-bridge
Atheist, Yr
Och erlid Crist a'i chwerw-loes,—ac, wed'yn,
Gwadu Ei drom dduloes,—
Gwadu Iawn Gwaed Ei einioes,
A gwadu grym Gwaed y Groes.
—Owen Jones
(Owain Gwyrfai), Waenfawr
Awel, Yr
Ei rhandir nis gŵyr undyn:—rhyw dyner
Dòn drwy'r awyr enfyn:
Ysgydwir gwisgi edyn
Engyl Duw yn nghlyw y dyn.
—Thomas Nicholson, Talysarn
Awen—Pa beth yw?
Gwên a rhywiog lên Rhagluniaeth,—nwyfiant
O nefol wybodaeth,—
Dylif o ysbrydoliaeth—
Yw dawn a ffrwd Awen ffraeth.
—Griffith James, Telynor, Dolgellau