Awenydd, Yr
Awenydd a adwaenir—wrth ei gwedd,
Ac wrth y gwaith wnelir:
Nid yw pob peth a blethir
O'r un waed a'r awen wir.
—William Williams (Caledfryn)
Awr hunan
Awr hunaw ddystaw a ddaeth,—awr anghof
Ar rengau bodolaeth,
Awr gysglyd ar drymllyd draeth
Y môr elwir Marwolaeth.
—Robert Ellis (Cynddelw)
Awrlais, Yr
Teclyn sy'n dirwyn d'oriau,—fy enaid,
I fynu'n fynydau;
A phob ticyn sy'n neshau :
I ddiweddiad dy ddyddiau.
—David Jones, Treborth.
Awrlais, Yr 2
Yr Awrlais, ar y pared,—a ddengys
Ddu angau yn dynged;
Ac iaith ddwys ei bregeth dd'wed
Werth fy einioes wrth fyned.
—Pwy yw yr awdwr?
Awrlais Uffern: (cyflwynedig i'r annuwiol)
Mewn haner nos arosi—yn y pwll,—
Gwyneb haul nis gweli:
Ni chlywir llais d' awrlais di
'N taro un mewn trueni!
—Robert Arthur Williams (Berw)
Awyren, Yr [1]
Awyren,—belen glud bali,—drwy chwa
Derch hynt hyd wybreni:
Nwyf wib long, ban nawf heb li',
A llaw dyn yn llyw dani.
—Robert Davies (Bardd Nantglyn)
Bardd, Y
I lenyrch tu ol i anian—ehed;
A chlyw, mewn per syfrdan,
Swn rhyw li'n cusanu'r lan,
A thoni wrtho'i hunan.
—William Nicholson, Llynlleifiaid
- ↑ Cyn dyfeisio'r awyren adenydd ar ddechrau'r 20C defnyddid y term awyren ar gyfer balwn awyr poeth