Gwirwyd y dudalen hon
Plant Dic Sion Dafydd.
—****—
CAN DDIGRIF
AM Y
CYMRY SEISNIG
(WELSH ENGLISHMEN)
——————————————————
Chwi hoff feibion Gomer gwrandewch bob yr un,
Agorwch eich llygaid a gwelwch eich llun ;
Mae'n hiaith yn ymgymysg, — dyna chwi gam
Nes ydym bron colli yn llwyr iaith ein mam.
CYDGAN.
Truenus y gwaith, truenus y gwaith,
Fod achos i Gymro i wadu ei iaith.
Mae ffyliaid o Gymry i'w gweled bob dydd
Yn treisio iaith Gomer a'i gosod dan gudd;