Pan fyddont i'w gweled mewn marchnad neu ffair,
Mis gallant hwy siarad ond Seisnig bob gair!
Truenus y gwaith, &c.
Fel roeddwn i'n myned i siop William Puw,
Gan feddwl mai Cymry oedd yno yn byw,
Gofynais fel arfer am ddwy owns o dê,
Ond methodd a'm deall — Ow gibddall ag ê;
Truenus y gwaith, &c.
Gan nad oeddwn inau ond bychân o Sais,
Gofynais i wed'yn i berchen y bais
Am dê, a thybacco, a 'menyn a chân,
A'r wraig â'm hatebodd, “speak English old man,”
Truenus y gwaith, &c.
A minau'n rhyw hurtyn am fod yn 'sgolhaig,
Nisgwyddwni fymryn beth dd'wedodd y wraig,
Yn union mi waeddais, “Beth sy? yr hen fuwch ?
Os nad ych chwi'n clywed mi waeddaf yn uwch,”
Truenus y gwaith, &c.
'Roedd yno ryw hogen yn siarad yn stout,
“Gan faldwrdd yn seisneg, “You better go out —
My Misses can't suffro old blaggard like you
To keep such a mwstwr in siop Mr. Puw.
Truenus y gwaith, &c.
Oddiyno mi aethum i'r dafarn. am gwart,
A chogen o Farmaid atebai yn smart,
"Speak English, old Cardi,— chwi ddigon o blâg,
There's nobody here yn deall Cymra'g.
Truenus y gwaith, &c.
Rroedd yno yn eistedd ddau Sais o Sir Gaer,
Unydoedd yn deiliwr a'r, llall oedd yn saer;
Tudalen:Plant Dic Sion Dafydd.pdf/2
Gwirwyd y dudalen hon