Tudalen:Plant Dic Sion Dafydd.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bu'r teiliwr yn Llundain am ddau fis neu dri,
A'i glywed e'n crecian oedd ddigon o spri.

Truenus y gwaith, &c.

Y teiliwr eisteddai gan-yfed ei gin,
A broilian ei Seisneg yn debygi hyn:
I been out in trampo how far I can't tell,
I been out in Bristol and London am spell.

Truenus y gwaith, &c.

I saw great' rhyfeddod in London one day,
A something like Lion was running away;
The people was frightened, and I was 'run fath,
The same as llygoden afraid of a cath.

Truenus y gwaith, &c.

They sent to the barracks for lot of men feet,
They sent to the water for sea breeches fleet,
But they cot the lion — but I cannot tell how,
And what do you think was it but son of a cow,”

Truenus y gwaith, &c.

'Rown inau 'rhen Gymro yn sefyll fêl ffol,
Heb gadair i eistedd na phlocyn na stôl,
Dywedais yn wirion a gwanaidd fy llais,
Nad oeddwn i'n deall mo 'stori y Sais.

Truenus y gwaith, &c.

Ac yna gofynais a wnewch chwi'n ddinag
I adrodd y stori i mi yn Gymra'g :
“ Yes, yes,” ebe'r teiliwr, gan chwyddo ei gest,
“ If you will be guiet I will do my best,

Truenus y gwaith, &c.

"I been out in trampo, is bod pell o dre
How far I can't tell you — fi'n gwybod dim ble