Tudalen:Plant Dic Sion Dafydd.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

And London is Llundain — you know very well,
And Bristol is Brasder — so far I can tell.

Truenus y gwaith, &c.

"I see great rhyfeddod is gwel'drhywbeth syn
And what is the lion but bulldog New Inn,
The people is dynion, and frightened is braw,
And what you call barracks — hen dŷ oedd gerllaw

Truenus y gwaith, &c.

Men feet is traed milwyr — chwi' n gwybod rwy'n siwr
And sea breeches army is milwyr y dŵr;
Male cow is a tarw, and plentyn is boy.
And there's the translation i gyd wedi roi.

Truenus y gwaith, &c.

Fe haedda y teiliwr a'i stori gael clod, —
A glywsoch chwi siarad fath Seisneg erio'd ;
Ei hanner yn Seisneg a mwy yn Gymara'g,
Ond, dyna i chwi deiliwr a'i benglog yn wag.

Truenus y gwaith, &c.

Rhyw Sais yn fy ymyl yn cynyg ei rock,
A'r llall oedd; yn gwaeddi, "Come buy skadan coch".
A finau yn gwybod mai loshin oedd un
A' sgadan Llandudoch a gludai y dyn.

Truenus y gwaith, &c.

Roedd porter y railway yn yn uchel ei lef,
Yn gwaeddi Tlanelthy nes crynid y dref,
A finau'n adnabod Llanelli'n lled drue
Meddyliais mai'n India yr oeddwn yn byw

Truenus y gwaith, truenus y gwaith,
Fod achos Gymro i wadu ei iaith.