PENNOD I.
MAGI.
HAUL disglair mewn awyr ddigwmwl, ac odditanynt ddaear boeth sych, a phrennau'r goedwig yn plygu'n wyw wrth ddisgwyl drwy hirddydd poeth Affrica am y gwlith ir a chysgodion oer y nos. Ynghanol y goedwig eang yr oedd darn bychan wedi ei arloesi ac ar y darn hwnnw bentref bychan. Yr oedd y tai bychain crynion yno i gyd gyda'i gilydd, a tho gwellt pob un ohonynt yn disgleirio fel aur yn haul y prynhawn. O amgylch y pentref yr oedd mur bychan o ganghennau coed, ac un porth bychan iddo. Pedwar o'r gloch oedd, a dechreuai'r haul wyro tua'r gorllewin. Yr oedd y pentref yn llawn berw bywyd, cyfarthiadau cwn, brefiadau defaid a geifr, bloeddiadau bechgyn wrth chwarae pêl ryfedd a dynasent o bren yn y goedwig, lleisiau gwyr a gwragedd, a swn isel, hapus, babanod bychain a ymroliai ar y llawr yn yr heulwen. Drwy'r cyfan, clywid swn cryf cyson arall,—pwm, pwm, pwm,—fel curiad amser i dôn brudd y lleill. Swn y gwragedd a'r merched yn malu'r grawn yn yn barod erbyn swper oedd hwn. Symudai eu cyrff duon lluniaidd yn ol a blaen wrth godi'r pren mawr, a'i ollwng i ddisgyn yn drwm i'r noe bren lle'r oedd y grawn a gurent yn flawd.