Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gofalai baratoi y plant dan ei ofal ar gyfer gwasanaeth yr Eglwys ar y Saboth, trwy ddysgu iddynt y Catechism a phethau eraill, a cheid ef yn bresennol yn yr Eglwys gyda'i ddisgyblion. Ni ddysg yr Adroddiadau na feddai'r Emynydd gydymdeimlad â'r Methodistiaid a'u gwaith, ac ni fwriedir dysgu'n awr na fu'n aelod yn yr eglwys Fethodistaidd ar adeg neu adegau o'i fywyd; y cwbl a ddywedir ydyw, na wyddys am ddim i brofi hynny.

Tyb arall gyffredin i holl gofiannau Morgan Rhys ydyw iddo fod yn bregethwr neu gynghorwr cymeradwy am flynyddoedd yn y Cyfundeb Methodistaidd. Dichon bod hyn yn gywir. Gallai arfer y ddawn bregethu cyn myned yn athro'r Ysgolion Cylchredol yn 1757, ac eilwaith am y pedair blynedd olaf o'i fywyd, y rhai nad oes gyfrif ohonynt. Eithr y mae'n amlwg oddiwrth lythyrau'r Welch Piety na oddefid i athrawon Griffith Jones gynghori neu bregethu. Yn Adroddiad 1741, Mai 29, cadarnheir hyn gan dystiolaeth dau offeiriad, a Wm. Williams, Pantycelyn, curad Llanwrtyd ar y pryd, yn un ohonynt:

Reverend Sir,

This is to certify that the Master of the Welch Charity School, near Pentretygwyn, in the Parish of Llanfair-y-Bryn, behaved himself civil and according to the prescribed rules without taking upon him to be an exhorter or anything unbecoming his Calling.

Yn yr un Adroddiad rhoddir hanes diarddel H—T— am gynghori neu bregethu "yn y gwahanol Gymdeithasau a sefydlwyd yn ddiweddar":

Complaints being brought against H—T—, Master of a Welch School in Lantwit, viz, that he kept the least of all the Masters within the Bounds of his Duty, he was discharged."

Ynglŷn â'r achos hwn, mewn llythyr dyddiedig, Kilpebyll, Ion. 8, 1741, ysgrifenna Thomas Jenkins, Offeiriad,