Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llangiwe, “I was informed that you were told HTpublished Meetings in publick places as the Methodists do." A dywed William Thomas, Curad Cadoxton, mewn llythyr o'r un dyddiad, am HT—, "He has been charged, and he confesses it in part himself to be true, with exhorting in the Religious Societies lately established here. He seems to be very sensible of his indiscretion in being over persuaded by some hot—headed people to take upon him in the least the part of a teacher and promises he will never attempt such things again."

Nid yw'n debig oddiwrth y cymeriad a roddir i Morgan Rhys yn yr Adroddiadau y torrai ef y Prescribed Rules trwy bregethu yn y Cymdeithasau Methodistaidd nac yn unman arall. Dichon iddo bregethu wedi marw Griffith Jones, oblegid tybir i'r Prescribed Rules golli llawer o'u grym pan ddaeth yr Ysgolion tan ofal Madam Bevan. Tybiaeth yw hyn hefyd. Nid oes ar glawr gyfeiriad at yr emynydd yn pregethu mewn unrhyw fan erioed.

Traddodiad a gredwyd mor gadarn onid aeth yn ffaith i gofiannwyr Morgan Rhys ydyw, iddo sefydlu ysgol ar ei gyfrifoldeb ei hun yng Nghapel Isaac, rhwng Llanfynydd a Llandeilo, eithr y mae'r hyn a nodwyd eisoes yn egluro na wyddys heddyw am un sail i'r traddodiad. Gorwedd niwl tew ar fore oes y prydydd; cododd am ychydig yn y prynhawn, a disgynnodd drachefn yn yr hwyr.

Y mae'n fwy na thebig mai rhywle yn ardal Llanfynydd y bu farw'r emynydd—mewn tŷ bychan ar dir Cwmgwaunhendy, medd traddodiad. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys y plwyf, Llanfynydd, ac yng nghofrestr y claddedigaethau yn yr Eglwys ceir y geiriau Morgan Rhys, August 9th, 1779." Yn anffodus ni chyfeirir at ei oedran. Felly, nid oes ar gadw ddim sicr am yr emynydd ond y blynyddoedd y bu'n athro'r Ysgolion Cylchredol, nodwedd ei gymeriad, ffrwyth ei athrylith, a dydd ei gladdu. Huna'n dawel er 1779, ac ni wyddys am fan ei fedd. Nid oes yno "garreg arw a dwy lythyren."