Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywed traddodiad "bod ei fedd ar y tu gogleddol i'r Eglwys, tan y ffenestr ganol."[1] Pe meddai Morgan Rhys yr un safle fel milwr ag a fedd fel emynydd, ceid maen mynor cyn hyned â'i fedd i alw sylw at ei athrylith. Hwyrfrydig ydyw'r werin i anrhydeddu coffadwriaeth ei chymwynaswr.[2]

MORGAN RHYS A WILLIAMS.

Er na wyddys ddim am fore oes Morgan Rhys, ac er i'r niwl gasglu trachefn cyn ei therfyn, nid oes raid wrth broffwyd i ddysgu ei fod fel emynydd yn gynnyrch diwygiad crefyddol mawr. Dwyster ac asbri a thân diwygiad ydyw elfennau mawr ei emynau, ac oni cheir sicrwydd iddo erioed fod yn aelod o eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, ceir digon o sicrwydd mai i'r Diwygiad Methodistaidd y mae dyled y genedl am ei emynau penigamp. Cydoesai â Phantycelyn, Dafydd Jones o Gaio, a Dafydd William, Llandeilo Fach. Gwelodd fel hwythau oleuni byd a ddaw yng ngwawr bywyd newydd y genedl. Anadlodd yr un awyr gynnes, yfodd o'r un ffynhonnau melys, a chanodd fel hwythau folawd y Groes. Bach a llwm a fyddai Llyfr Emynau Cymru ar wahan i'r Diwygiad Methodistaidd a Sir Gaerfyrddin.

Prawf prif waith yr awdur ei fod yn ddyn hyfedr anghyffredin pa un bynnag a gydnabyddid hynny yn ei oes ef ai peidio. Yr oedd yn feddyliwr cryfach na Dafydd Jones o Gaio, a Dafydd William, Llandeilo Fach, ac yn well bardd; yr oedd yn gystal Cristion â Williams, Pantycelyn, ac yn ol barn rhai yn gystal emynydd hefyd. Diau y tybiai amryw gais at ddiorseddu Pantycelyn a dyrchafu Morgan Rhys i'r orsedd yn ymylu ar ryfyg; eithr gesyd deunydd, ansawdd, a gwasanaeth ei emynau yr awdur yn uchel iawn ymhlith yr emynwyr, onid yn uwch na phawb. Os prawf dadl y Parch. Cynhafal Jones, D.D., yn ei

  1. Y Tadau Methodistaidd.
  2. Yn 1915 penderfynodd Cyngor Eglwysi Rhydd Llanfynydd a'r Cylch godi Cof-golofn i'r emynydd ym mhentref Llanfynydd, eithr daeth y Rhyfel a'i aflwydd i rwystro'r gwaith.