Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feirniadaeth ar Weithiau Williams mai ef, Williams, ydyw'r bardd mwyaf a welodd Cymru erioed, gwasanaetha'r un ddadl i brofi mai Morgan Rhys ydyw'r emynydd mwyaf a welodd Cymru erioed. Dyma eiriau y Dr. Cynhafal:

"Y mae hyn yn sicr, fod mwy o ddarllen ar weithiau Williams yng Nghymru, a mwy o ol ei weithiau ar fywyd a chymeriad y genedl, nag sydd o ddarllen, ac nag sydd o ol gweithiau yr holl feirdd eraill i gyd gyda'u gilydd. Ac os yw hyn yn wir (ac yr ydym yn meddwl nad oes neb ystyrbwyll a'i gwada), y mae yn ddigon i brofi tuhwnt i bob dad na phetrusder, mai Williams yw y bardd mwyaf tuhwnt i bob cymhariaeth a ymddangosodd erioed ymhlith y Cymry, neu ynte nad yw y Cymry ond cenedl o ffyliaid a deillion. Ydyw, er holl fregawd bechgyn y "glec," a baldordd "seiri y cynghaneddion " wrth y maen chwyf, y mae cysgod yr Hen Williams yn drymach na'r holl gyfandorf gwmpasog ohonynt hwy."[1]

Prin y mae'r geiriau hyn yn eiddo un "ystyrbwyll.' Un o beryglon edmygydd mawr ydyw bod yn rhy hydwyth ei dystiolaeth am wrthrych ei edmygedd. Yr oedd William Williams yn fardd da, a chydnebydd y mwyafrif hynny byth wedi beirniadaeth ffafriol Hiraethog ar " Golwg ar Deyrnas Crist" a "Bywyd a Marwolaeth Theomemphus," eithr nid oes un o bob deng mil o Gymry wedi darllen y rhain a'i farwnadau. Emynau Williams yn unig a ddarllenir ac a genir gan y genedl, a'u dylanwad hwy sydd ar ei bywyd. Byddai mwy o rym yn nadl Cynhafal pe cymharai'r awdur ag emynwyr Cymru, ac nid â'i phrif feirdd. Heblaw hyn, ceir rhai "ystyrbwyll" yn gwadu fod mwy o ddarllen ar weithiau Williams nag sydd ar eiddo'r holl feirdd eraill gyda'i gilydd. Ymddengys nad oes cymaint o ddarllen, neu o leiaf, nad oes cymaint o ganu, ar emynau Williams ag sydd ar eiddo'i gyfoeswr Morgan Rhys. Dywed y Dr. J. Moelwyn Hughes yn ei ysgrif ar Morgan Rhys yn y Traethodydd[2] i leygwr meddyl-

  1. Gweithiau Williams Pantycelyn, 1887.
  2. Y Traethodydd, Ion. 1915