Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gar o Sir Gaerfyrddin ei hysbysu y cenir emynau Morgan Rhys yn amlach gan gynulleidfaoedd Cymru nag eiddo neb arall, a bod y dystiolaeth yn ffrwyth sylw manwl a chyfrif teg o'r emynau a genid am flwyddyn gyfan yn y capel yr addolai ef ynddo. "Penderfynais yn y fan," ebe'r Dr. Hughes, "y rhoddwn innau brawf ar y mater; cefais hefyd gyfaill ym Morgannwg i wneud yr un peth; ac er ein syndod, canfuwyd gennym ein dau, ar derfyn deunaw mis y profi, fod ffrwyth ein sylwadaeth yn gwireddu tystiolaeth y diacon craffus o Fro Myrddin." Yn gyson â dadl y Dr. Cynhafal Jones, prawf y dystiolaeth hon naill ai mai Morgan Rhys yw prif emynydd y genedl, neu nad yw'r saint ond cynulliadau o "ffyliaid a deillion."

GWAITH LLENYDDOL YR AWDUR—EI FARWNADAU.

Yn ol arfer beirdd ei oes cyfansoddodd Morgan Rhys amryw farwnadau. Ymddengys y disgwylid i'r sawl a fedrai ychydig ar farddoni ganu coffa dynion da, fel y disgwylir heddyw i'r sawl a fedr gysylltu geiriau'n gryno anfon ysgrif i bapur newydd neu gylchgrawn am gymeriadau gwerthfawr a gollir. Pa mor wael bynnag fyddai cân yr emynydd byddai llawer o werth yn y testun fynychaf. Cenid naill ai am bregethwr poblogaidd neu am gymeriad crefyddol adnabyddus.

Marwnad y Parch. Howel Davies.

Un o ddynion mawr ei oes ydoedd y Parch. Howel Davies, dyn y mae Methodistiaeth a Chymru mewn dyled fawr iddo. Disgynnai o deulu anrhydeddus a chrefyddol yn Sir Benfro, a ganed ef, yn ol Williams, Pantycelyn, yn y flwyddyn 1717.<ref>"Yr hwn a fu farw Ion. 13, 1770, yn dair ar ddeg a deugain oed,"—Gweithiau Williams Pantycelyn, Cyf. I., tud. 472, y Dr. Cynhafal Jones.<ref> Wedi cwrs o addysg elfennol yn ei gartref, aeth i fath ar athrofa a gynhelid gan y Parch. Griffith Jones, yn Llanddowror, ac yn 1736, tua'r adeg y