Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dechreuodd Howel Harris efengylu, cafodd urddau yn yr Eglwys Wladol, a galwyd ef cyn hir i fod yn gurad Eglwys Llys-y-fran, ym Mhenfro. Eithr yr oedd naws ei ysbryd, glendid ei fuchedd, ac egni a gonestrwydd ei bregethu, yn ormod i'r plwyfolion, a bwriwyd ef allan o Lys-y-fran. Dymunai crefyddwyr gwanllyd a difoes y plwyf weinidog fel hwythau dipyn yn ysgafala ei fywyd a'i arferion. Ymhen peth amser symudodd i Hwlffordd i wasanaethu fel curad eto. Deuthai yno fel gwynt nerthol yn rhuthro ac yn dadwreiddio hen dderi annhyblyg; cynhyrfwyd yr holl dref, a chynhyddodd ei ddylanwad mor gyflym nes ymdaenu ohono'n fuan tros yr holl sir. Trwy ei athrawiaeth iach, ei fywyd unplyg, a'i bregethu tanllyd, tynnodd offeiriaid y Sir yn ei ben, a chaewyd yr eglwysydd yn ei erbyn. Aeth yntau fel ei Feistr i'r prif-ffyrdd a'r caeau. Daeth yn gyfaill i Harris, Rowlands a Whitfield, ac yn gydweithiwr â hwy, a phregethodd trwy Gymru gyfan. Am agos i ugain mlynedd bu Howel Davies yn crwydro heb fan sefydlog i bregethu ynddi. Weithiau ceid ef yn efengylu mewn llan, a phryd arall mewn tŷ annedd, neu yn y maes. Dywed Enwogion y Ffydd, "Y capel cyntaf a adeiladwyd yn y Sir[1] oedd capel Woodstock (Bôn-y-Coed) yn y flwyddyn 1754; a'r ail oedd y capel newydd, ar derfyn gogleddol y Sir, yn y flwyddyn 1763. Yn y ddau hyn, ynghyda dau addoldy perthynol i'r Eglwys Sefydledig, ond diwaddol, sef Capel Maunston, gerllaw Narberth, a St. Daniel, gerllaw Penfro, y pregethai y gŵr enwog fynychaf, a gweinyddai Swper yr Arglwydd ynddynt bob mis."[2] Bernid y rhifai'r cymunwyr fynychaf yn y Cymundeb misol oddeutu dwy fil, ac y rhifai gwrandawyr y pedair eglwys 7,000:

Howel Davies ffyddlon, gywir,
Bugail pedair eglwys fawr,
Sydd yn mynd i Fynwent Prengast
Heno, i orwedd yno i lawr;

  1. Sir Benfro.
  2. Enwogion y Ffydd, tud. 210.