'Rwyf yn clywed saith o filoedd |
Yr oedd Howel Davies yn bregethwr nerthol, ac yn allu ysbrydol mawr drwy'r holl Sir, a dysg hanes y cyfnod y llafuriai ynddo ei fod i Sir Benfro yr hyn ydoedd Daniel Rowlands i Sir Aberteifi. Ef oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo, eithr diffoddodd Ionawr 13, 1770, ac ef ond 53 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Prengast, Hwlffordd. [1]
Canodd Morgan Rhys ei deyrnged i goffadwriaeth Howel Davies, a rhain yw'r geiriau sy uwchben y gân:
Marwnad, neu Goffadwriaeth o ddedwydd farwolaeth rhai o Weinidogion ffyddlon yr Efengyl, a ymadawodd a'r byd hwn yn ddiweddar, yn Neheudir Cymru, sef y Parchedig Mr. Howell Davies, yn Sir Benfro; Mr. William Richard, yn Sir Aberteifi; a Mr. Sion Parry, yn Sir Gaerfyrddin, ynghydag amryw eraill o'r saint a fu yn cydaddoli gyda rhai ohonom yn y byd presennol, sydd heddyw yn holliach yn y byd tragwyddol."[2]
Marwnad y Parch. Lewis Lewis
Yn y flwyddyn 1764, cyhoeddodd Ioan Ross, dros Morgan Rhys, "Farwnad neu hanes bywyd a marwolaeth y Parchedig Mr. Lewis Lewis, gweinidog yr Efengyl, yn Llanddeiniol, yn Sir Aberteifi, yr hwn a hunodd gyda ei dadau, Mehefin 9, 1764, 27 oed, er mawr golled i'r Eglwys."
Canodd Pantycelyn yntau farwnad i Lewis Lewis yn cynnwys 4,320 o linellau, a bernir ei bod yn un o'i ganeuon goreu. Er pob ymchwil, methais â tharo ar