Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim o hanes gwrthrych y caneuon hyn, eithr y mae'n amlwg nad y Lewis Lewis a urddwyd yn weinidog i'r Annibynwyr ym Mhencader, ar yr ail o Awst, 1759, ydoedd, fel y tyb y Parch. Thomas Levi,[1] oblegid dywed wyneb-ddalen marwnad Williams mai gweinidog "Eglwys Loegr" ydoedd. Dywed Morgan Rhys yntau mai "gweinidog yr Efengyl yn Llanddeiniol, Sir Aberteifi " ydoedd. Eithr pwy bynnag ydoedd tystia'r ddwy farwnad ei fod yn gymeriad ysblennydd, ac yn bregethwr hyawdl a llwyddiannus anarferol. Dyma dystiolaeth Morgan Rhys:

Cennad ffyddlon tros ei Arglwydd,
Dewr a didwyll mewn diwydrwydd;
Yn seinio udgorn yr Efengyl
A'r newyddion da yn rhigil;
Cafodd lwyddiant anghyffredin,
Ymhlith y waredigol werin;
Trwy ei oes, gwaed y Groes
Marwol loes Iesu,
Oedd ef yn ddidwyll yn draddodi,
Yn seil-faen Iechydwriaeth inni.

Er ieuanged ydoedd y Parch. Lewis Lewis—bu farw yn 27 mlwydd oed,—yr oedd yn boblogaidd trwy Gymru gyfan. Teithiodd lawer i bregethu:

Trwy Ddeheudir a thrwy Wynedd,
Bu'n pregethu gwir ymgeledd,
I'r eneidiau archolledig,
Llwyr iachâd yngwaed y Meddyg;
Rai blynyddau yn anhwylus
Y trafaelai yn ofalus,
I blith y saint, hyfryd fraint,
Er maint ei afiechyd;
Y Sabboth ola yn ddyfal hefyd,
Cyn ymado o'r byd i'r bywyd." [2]


  1. Casgliad o Hen Farwnadau Cymreig, Y Parch. Thomas Levi.
  2. Marwnad, etc., y Parchedig Lewis Lewis, Morgan Rhys.