Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae yn y gân bymtheg o benillion, a'u syniadau'n gyffredin, a'u gwisg yn llwm ei gwala.

Marwnad Morgan Nathan.

Y gân olaf y sylwir arni ydyw Marwnad Morgan Nathan, Llandeilo Fawr. Cyn belled ag y gwyddys nid oes dim ar gael o hanes Morgan Nathan ond a geir yn y gân hon. Ymddengys mai dyn cyffredin ei amgylchiadau ydoedd, yn gwasanaethu ym mhlasau cyfoethogion, eithr yr oedd yn anghyffredin o dduwiol ei fryd a glân ei fuchedd:

Gorchfygodd fyd o ddrygau ac annuwiolion llym,
A llygredigaeth gwreiddiol yn eitha' ei rwysg a'i rym,
Er ofni yn y palas yn hollol golli'r ma's,
Fe'i nerthwyd yn y frwydr, anfeidrol olud gras.

Gwasnaethu'r bonedd penna' Nghymru 'roedd efe,
Lle galwyd, ac y treuliodd ei ddyddiau tan y ne',
Mewn plasau a mynyddau fe roddai ei liniau lawr,
Nosweithiau fe weddie o hwyr i foreu wawr.

Wedi canu deg pennill arall y gellid heb ystum eu cymhwyso at unrhyw ddyn da mewn unrhyw oes, disgyn drachefn ar Morgan Nathan, i egluro'i fod yn Galfin iach a chryf, ac yn meddu hyder sefydlog ei fod "ymhlith y cadwedigol rai":

Fe ddywedodd wrthyf lawer am arfaeth gadarn râd,
Ei brynu cyn ei eni ar Galfari â gwâd;
Jehofa, Alpha, Omega, a'r hen-ddihenydd o'dd,
Ei gân bereiddlon yma yn siriol wrth ei fodd.

Yn y penillion nesaf gesyd wrthrych ei gân ynghanol y nef, ac

Fe ganodd sêr y boreu, ar ei ddyfodiad E'. '
Nghanol nef y nefoedd ei weled yn ei le.