Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna, wedi sôn am bethau anhraethadwy a welodd Nathan yn nef y nefoedd, try'n ol i'r ddaear eilwaith i draethu am ei briod, ac i ganu am ei oedran:

Ca's briod ddiwar, fedrus, cariadus, mwyn a da,
Ymgeledd gymmwys iddo'r wyth mis y bu yn gla',
Yn agos i naw mlynedd yn briod buont hwy,
O'r dechreu i ddydd angeu, pob un yn caru yn fwy.

Ei oed pum mlwydd a deugain, bu ar y ddae'r yn byw,
O rhain bu bymtheg mlynedd yn 'mofyn am ei Dduw,
Un mil saith gant a thrigain pedair ar ddeg ynghyd,
Y trydydd dydd o Dachwedd aeth i'r tragwyddol fyd.

Nid oes llawer o drefn na medr nac awen yn y gân, ond llwyddodd yr awdur i rigymu wyth a thrigain o benillion, a diau i berthynasau Morgan Nathan fagu digon o amynedd i'w darllen drwyddi. Ymddengys mai prif amcan yr hen emynwyr yn canu marwnadau ydoedd cofnodi'n syml hanes y personau y cenid amdanynt, a llwyddodd Morgan Rhys i roddi'r unig hanes sydd gennym am Nathan. Clodfora rhai Morgan Rhys ar gyfrif ei fedr i drin ansoddeiriau. Wel, y cwbl a ddywedaf ydyw, na wybu'r hen brydydd ddim am brinder o'r pethau hyddawn hynny,"Ca's briod ddiwar, fedrus, cariadus, mwyn, a da." Ychydig a wyddys am yr hen Emynydd, ac nid oes ddiolch i'w farwnadau bod hyd yn oed ei enw gennym.

EMYNAU'R AWDUR.

Er nad oes fawr ffurf lenyddol, a llai fyth o geinder, ym marwnadau'r hen emynwyr, y mae eiddo rhai ohonynt yn rhagori llawer ar ganeuon Morgan Rhys. Pethau gwael yw ei farwnadau ef, heb egni meddwl na theimlad, ac heb ond ychydig o ofal am gorfan ac odl. Nid o'i galon y codai'r cymhellion i ganu, eithr oddi allan y deuthant. Cyfansoddodd rai, yn ol ei dystiolaeth ei hun, ar gais cyfeillion, a dichon mai bodloni cyfeillion a'i cymhellodd i'w cyfansoddi oll. Eithr canu fel aderyn, wrth