Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fodd ei galon, a wnaeth yn ei emynau,—canu diolch, a llawenydd, a gweddi, wedi i wawr byd arall dorri ar ei fywyd a chynhesu ei ysbryd.

Prif waith Morgan Rhys ydyw Golwg o Ben Nebo. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1755. Wele'r wyneb-ddalen:

"Golwg o Ben Nebo, ar Wlad yr Addewid: sef
Ychydig Hymnau Duwiol. Yn cynnwys gan mwyaf
Golwg Ffydd wrth edrych ar Dragwyddoldeb.
O waith Morgan Rhys.

Argraphedig ym Mristo, gan F. Ffarley, yn y flwyddyn
1755."[1]

Y mae yn yr argraffiad hwn un emyn ar ddeg, gyda'r testun uwchben pob Emyn, fel a ganlyn:

1. Byw i mi yw Crist, a marw sydd Elw.
Gofudus Dyddiau Mhererindod
Sydd ar ddarfod yn ddilai;
Ffarwel yfed Dyfroedd Mara,
I Ddinas arall 'rwy'n nesau, etc.

2. Gorphwysant oddiwrth eu Llafur.
Fy enaid athrist, gorfoledda,
Darfu Amser o ryfela, etc.

3. Yno y gorphwys y rhai Lluddedig.
 Henffych i'r Borau hyfryd
'Ddaw Gelyn byth i'm cwrddid
I Dir y Bywyd fry, etc.

4. Ac yno y bydd Barn, etc.
Caned y Genedl gyfiawn
Ddaeth Iesu i'w rhyddhau, etc.


  1. Cyflwynwyd copi o'r argraffiad cyntaf o "Golwgo Ben Nebo" i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1921, gan Mr. D. Lleufer Thomas, M.A.