Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

5. Ymdaith o'r Aipht i Ganaan.
I'r Aipht daeth Iesu 'ngwared
O Dir Caethiwed du, etc.

6. Gwaredigaeth
Trugaredd f'Arglwydd cu
Fyth-fyth ryfedda i
I wneud Pechadur du
Fod fel yr Eira gwyn, etc.

7. Crist Noddfa mewn Cyfyngder.
Yn erbyn stormydd mawr a thonnau
Mae fy Siwrnai tua Thre, etc.

8. Arall.
Nid wy'n ceisio fawr Esmwythder
Ar y Ddaear 'rwyf yn byw, etc.

9. Golwg gyssurus ar Drag'wyddoldeb.
Newyddion brâf wy'n gael heb lai
Fod Trag'wyddoldeb yn nesau, etc.

10. Canmoliaeth o Grist.
Trag'wyddol Glôd i'r Oen a laddwyd,
Fy ngharu wnaeth er maint fy mai, etc.

11. Hyder.
Pechadur yw fy Enw,
Trwy waed mi ge's fy ngadw
Rhag marw a mynd i'r Tân, etc.

Cyhoeddwyd ail argraffiad o Golwg o Ben Nebo yn 1764, a thrydydd argraffiad yn 1775. Dywed Gwilym Lleyn[1] bod argraffiad 1775 y pedwerydd, a chamarweiniodd hyn amryw o'r sawl a ysgrifennodd ar Morgan Rhys. Hysbysir ar wyneb-ddalen argraffiad 1775 bod yr emynau

  1. Llyfryddiaeth y Cymry.