Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"wedi eu trefnu a'u diwygio allan o'r ail argraffiad." Cyhoeddwyd o dro i dro amryw argraffiadau o Golwg o Ben Nebo, eithr y trydydd argraffiad oedd yr olaf yn oes yr Emynydd. Cyhoeddwyd hefyd amryw fân lyfrynnau o emynau gan yr awdur, megis "Casgliad o Hymnau, am Gwymp Dyn yn yr Adda Cyntaf, a'i Gyfodiad yn yr Ail"; "Golwg ar Ddull y Byd hwn yn myned heibio "; Golwg ar Ddinas Noddfa"; "Y Frwydr Ysbrydol," a "Gruddfannau'r Credadyn."

Y mae peth dryswch ynglŷn â "Gruddfannau'r Credadyn." Cyhoeddwyd dau lyfr gwahanol tan yr enw hwn, y naill ynglŷn â Hanes Bywyd a Marwolaeth y Parchedig Mr. Fafasor Powel yn 1772, a'r llall ychydig yn ddiweddarach. Nid oes na dyddiad nac enw cyhoeddwr wrth yr olaf, eithr tybir ei gyhoeddi tua'r flwyddyn 1773 neu 1774, ac o gymharu'r argraffwaith, gwelir mai Ioan Ross, Caerfyrddin, a'i hargraffodd. Ceir deg emyn yn llyfr 1772, ac un ar ddeg yn y llall, ond y pedwar a ganlyn yn unig sy'n gyffredin i'r ddau:

O gwyn eu byd y dyrfa
Sy'n canu Haleluia, etc.

Dewch holl hiliogaeth Adda,
I wledd y Brenhin Alpha, etc.

Mae'r byd wyf yn breswylio
A'i ddull yn myned heibio, etc.

Gwnawd concwest ar Galfaria fryn,
Am dani canodd myrdd cyn hyn, etc.

Yn y cyntaf o'r ddau lyfr yn unig y mae "Beth sydd i mi yn y byd," etc. Pwy a ŵyr nad amheuai'r awdur hawl yr hen emyn i fyw; ac iddo'i adael allan yn yr oerni i rynnu hyd farw, fel yr hoffai rhai beirniaid wneuthur heddyw. Am ryw reswm neu'i gilydd byw a wna'r emyn, ac wedi cant a hanner o flynyddoedd y mae'n iraidd a hoyw.