Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NODWEDDION YR EMYNAU.

Er gwyched gwaith Morgan Rhys y mae yntau'n euog o feiau cyffredin emynwyr mawr ei oes. Nid yw ei iaith mor lân a choeth ag y dylai fod, a defnyddia ambell ffigyr annaturiol. Cymerer enghraifft neu ddwy:

O furgyn gwael drewedig câs,
Ffieiddiaf ar wyneb daear lâs.

Clod tragwyddol fo i'w enw,
Torrodd fi'n y goedwig fawr;
Er fy mod yn bren anghymwys,
Yn ei Eglwys 'rwyf yn awr.

Dichon bod "burgyn drewedig câs" yn burion Cymraeg, eithr nid yw'n goeth, ac ni ddylid ei gymhwyso at fod moesol pa mor ddrwg bynnag y bo. Chwithig hefyd ydyw cyffelybu aelod mewn eglwys i bren a dorrwyd yn y goedwig.

Ceir digon o brawf yng Ngolwg o Ben Nebo na flinid, neu'n hytrach na swynid yr emynydd gan ysfa lenyddol prif feirdd ei oes. Nid oes ynddo un ymdrech at y cain a'r perffaith. Darnia'n ddidrugaredd eiriau da, a gwaedant fyth i anurddo'i emyn. Afrada ansoddeiriau nes difa synnwyr, ac ni fedd ddigon o gydwybod llenor i feddwl yn drefnus bob amser. Petai'r awdur wedi osgoi'r beiau hyn dyblid nifer ei emynau arferedig yn eglwysi Cymru heddyw, eithr gan nad ydyw mwyafrif y diffygion namyn tyllau yn y wisg, ni fyddai raid wrth gyweiriwr medrus iawn i gymhwyso degau ohonynt i wasanaeth y gynulleidfa.

Y mae testun y llyfr yn un hollol briodol,—" Golwg o Ben Nebo. . . . Casgliad o Bigion Hymnau, am Gwymp dyn yn yr Adda Cyntaf, a'i gyfodiad yn yr Ail Adda," etc. Edrydd yr awdur hanes moesol dyn o'i gwymp "Yn Eden i bydew du blin" trwy y "gorthrymderau mawr o hyd" i'r "tangnefedd difrâd ym mynwes fy nhad," ac