Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna, o Ben Nebo, gwel yr "etholedig rai" mewn hedd digymysg yn y Ganaan Nefol. Rhai o nodweddion amlycaf yr emynau ydyw:

I. Eu Gwreiddioldeb. Gwelir gwreiddioldeb yr awdur hyd yn oed yn y mesurau. Nid oes yng ngwaith yr un emynydd, ac eithrio Pantycelyn, gymaint o amrywiaeth mesur, ac y mae rhif emynau Williams yn rhifo eiddo Morgan Rhys bedair gwaith onid mwy. Eithr y prawf sicraf o wreiddioldeb emynau Morgan Rhys ydyw, nad oes arnynt arlliw cyfieithu na chysgod efelychu. Beiïr Benjamin Francis am gyfieithu gwaith y Sais a benthyca'i syniadau, a thybir i Thomas William, Bethesda'r Fro, efelychu rhai o'i gyfoeswyr Cymreig; ond dibynnu'n gwbl ar ei allu a'i brofiad ei hun am ddefnyddiau a wnai Morgan Rhys, a gwisgai ei feddyliau fynychaf yn iaith yr Ysgrythyr.

II. Ceir y lleddf a'r llon yn lled gyfartal yn yr emynau. Erys yr emynydd yn hir gyda phechod a blinfyd y saint; hwyrach yr erys yn hwy nag a wna gyda'u rhinwedd a'u llawenydd, ac y mae hyn o angenrheidrwydd yn tywyllu'r emynau. Y mae'n wir y daw gobaith a buddugoliaeth i mewn cyn terfyn yr emyn fynychaf, eithr hawdd yw disgyn i'r lleddf. Y mae ganddo amryw emynau goleu a hoenus; ond ceir y prudd a'r siriol fel efeilliaid yn ymyl ei gilydd trwy'r emynau. Prif ddiffyg, os diffyg hefyd, yr emyn adnabyddus,

Beth sydd i mi yn y byd,
Gorthrymderau mawr o hyd, etc.,

ydyw ei brudd-der trwm. Ceir yn yr emyn brawf o dynherwch cydwybod dyn santaidd mewn byd pechadurus. Yr un yn hollol ydyw profiad Morgan Rhys ag eiddo Paul, a miloedd o ddynion ysbrydol eraill. Sylwer mai gorthrymderau ac nid gorthrymder sydd yn yr emyn gwreiddiol. Gwna hyn wahaniaeth pwysig. Ceir