Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y syniad dro ar ol tro yn emynau Golwg o Ben Nebo, megis:

Un cystudd sydd ar ol y llall
I'm cwrddid yma yn ddiball, etc.

Beth ydyw dyn ond gwagedd gwael?
A pheth sydd yn y byd i'w gael,
Ond gorthrymderau foreu a hwyr?

Nid ydyw "Beth sydd i mi yn y byd," er cystal ydyw, yn un o emynau goreu'r awdur, ac nid ei gynnwys na'i naws sy'n cyfrif am ei boblogrwydd, ond tôn ragorol y Dr. Joseph Parry. Prawf o hyn yw'r ffaith na ellir na meddwl nac adrodd yr emyn heb feddwl hefyd am y dôn "Aberystwyth." Pa werth bynnag sydd yn yr emyn, ac y mae llawer ynddo, prin y tybia neb ei fod mor addas i addoliad cyhoeddus ag emynau goreu'r emynydd, megis:

Pechadur wyf, o Arglwydd, etc.
Gwnawd concwest ar Galfaria fryn, etc.
Dyma Geidwad i'r colledig, etc.

Ceir enghreifftiau o'r awdur ar lawer "prynhawngwaith teg o ha hir felyn tesog" yn canu'n llon fel aderyn diofid mewn emynau melys odiaeth:

Henffych i'r boreu hyfryd,
Ddaw gelyn byth i'm cwrddid,
I dir y bywyd, fry, etc.

Fy rhan yw'r Oen fu farw ar ben Calfaria draw, etc.

Wel, dyma'r newydd da,
A lawenycha'r cla',
Messia ga'd, etc.

Canu wnaf am fuddugoliaeth, etc.


III. Nodwedd arall amlwg yn yr emynau ydyw grymuster beiddgar. Y mae ynddynt lawer o nerth meddwl a