Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dewrder calon. Dengys amryw o'r emynau wybodaeth ac ynni deall yn ogystal a phrofiad yr awdur. Dyn cyffredin ymhob ystyr a geir yn ei farwnadau, eithr ceir meddwl cryf a theimlad dwfn yn yr emynau. Er yn dueddol i'r prudd, esgyn ei brofiad yn uchel iawn weithiau, ac yn rhy uchel i'r crefyddwr cyffredin. Dywed traddodiad yr arferai adrodd emyn o bryd i bryd wrth Pantycelyn, ac i Williams ar dro ddywedyd yn ei ddull sionc am emyn newydd, "Wel, y mae gen' ti yn hwna, beth bynnag, brofiad Cristion a hanner da." Čeir rhai llinellau yn emyn Pechadur wyf, O, Arglwydd," a brawf gryfder a beiddgarwch meddwl yr emynydd, ac wrth ei osod yn yr ysgrif hon, gwelir hyn, a gwelir hefyd y llurgunio a fu arno gan gyfnewidwyr Emynau:

Pechadur wyf, O Arglwydd, sy'n curo wrth dy ddor,
Erioed mae dy drugaredd diddiwedd i mi'n stor;
Er i ti faddeu beiau, rifedi'r tywod mân,
Gwn fod dy hen drugaredd lawn cymaint ag o'r blân.

Er i mi bechu'n ffiaidd o'm mebyd hyd yn awr,
Mil mwy yw dy drugaredd na'm holl bechodau mawr;
Mwy rhinwedd gwaed dy galon na'm ffiaidd bechod câs,
Dyfnach na damnedigaeth yw'th gadwedigol râs.

Mil cryfach yw dy gariad na'r hen elyniaeth gâs,
Sy'n ddirgel yn fy mynwes yn llwyr wrth'nebu'th râs;
Tragwyddol yw dy gariad, fe dynn fy nrwg o'r gwraidd,
Perffeithrwydd yn dragywydd feddiana'i gyda'r praidd.

Gwir i mi gyfeiliorni o ddechreu dyddiau nhaith,
A phechu yn dy erbyn fil o filiynau maith;
O Ffrynd troseddwyr maddeu fy mhechod i, mawr yw,
Un olwg ar dy glwyfau a lwyr iacha fy mriw.

Er bod fy ffiaidd feiau yn aml fel y gwlith,
Ni alla'i lai na chanu am waed dy galon byth;
Wrth gredu'th fod yn maddeu i'r fath bechadur mawr,
Gogoniant fo i'th enw trwy'r nefoedd wen a'r llawr.