Fe gawd yr hyfryd fanna, bwytawn o ŷd y wlad, |
IV. Ceir hefyd yn yr emynau brofiad byw iawn o chwerwder pechod a melyster gras. Y mae hynny o hanes yr emynydd sydd yn y Welch Piety, ac a gesglir oddiwrth ei waith, yn dysgu'n glir ei fod yn gymeriad pur a defosiynol, a'i fryd yn ysbrydol anarferol. Prawf hanes yr eglwys ar hyd yr oesoedd mai mesur santeiddrwydd y saint ydyw mesur eu sylweddoliad o ddrwg pechod. Cafodd Morgan Rhys ei draed ar graig, a thywalltwyd arno oleuni ysbrydol y Diwygiad mawr. Bu fyw yn uchel am ran helaeth o'i oes, a daeth i weled yn glir ddyfnder y pydew y dyrchafwyd ef ohono. O'i safle ysbrydol dyrchafedig gallodd ganu:
Un wyf o'r pechaduriaid mawr,
Ffieiddiaf ar wyneb daear lawr,
Ni wela'i un,
Fel fi fy hun, ymhlith y llu.
Meddyliais fil o weithiau mai uffern fyddai'm nyth,
Yn gyfiawn am fy meiau y poenid fi ynthi byth;
O uffern fe'm gwaredwyd, o greulon safn y ddraig,
Gogoniant yn dragywydd i Dduw am Had y Wraig.
Gwybu'r emynydd hefyd am fwynderau nefol y daith ysbrydol trwy'r anial. Wedi gadael yr Aifft a'i blinfyd caled, a dianc ar ddialedd Pharo, cân yn yr anialwch ar ei ffordd i Ganaan:
Ces ddwr o'r graig i yfed, |