Ces delyn tu yma i angeu, |
Mae dy Gariad, Iesu hawddgar,
Fil o weithiau'n well na'r byd,
Gwell na'r nefoedd faith, er cymaint,
Gwell na'r haul, a'r ser i gyd;
Tragwyddol yw cariad Duw
At golledig ddynolryw.
V. Prin y mae eisiau nodi bod symlrwydd yn un o brif nodweddau'r emynau. Y mae'r iaith yn gyffredin, heb rodres ynddi, ac yn ei emynau goreu yn bur lân. Nid yw'r meddyliau'n llac nac yn gymysglyd a thywyll, ac nid ydynt yn rhy farddonol i addolwyr syml fynegi eu profiadau ynddynt. Cristion sy'n canu, ac y mae'r emynau fel ef ei hun, yn onest a defosiynol. Ceir y symledd hwn yn ei holl emynau poblogaidd. Beth symlach na
Bu Morgan Rhys fyw yn dda, gweithiodd yn galed a chydwybodol, cyfrannodd addysg fydol a chrefyddol i gannoedd o blant a rhieni ei oes, a chanodd emynau ysblennydd a bair fendithion i'r eglwys genhedlaeth ar ol cenhedlaeth. Ni raid petruso ei osod ymhlith prif emynwyr Cymru, a'i osod yn uchel hefyd. Diau mai Pantycelyn sydd yn