Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ben—ef biau'r orsedd, ac eto, emynau Morgan Rhys a genir amlaf gan gynulleidfaoedd Cymru. Pa fodd y cyfrifir am hyn? Pwy a ddylid ystyried yn ben? Ni wnaed hyd yma gyfiawnder â Morgan Rhys fel emynydd. Dichon y cyfyd cyn hir lenor a'i gesyd yn y lle a deilynga.

III. DAFYDD WILLIAM.

Un o feibion Sir Gaerfyrddin ydoedd Dafydd William yntau. Er mai fel Dafydd William, Llandeilo Fach, yr adnabyddir ef, y farn gyffredin ydyw mai ym mhlwyf Llanedi, Sir Gaerfyrddin, y'i ganed, a'r tebig ydyw iddo dreulio rhan gyntaf ei oes hyd oedran a gwybodaeth gŵr yn y sir honno, oblegid ceir ei fod cyn dechreu ohono grwydro, yn bregethwr neu gynghorwr gyda'r Methodistiaid yn Llanfynydd. Yn un o'i adroddiadau i'r Sasiwn dywed James Williams, "David Williams an exhorter at Llanfynydd has left me, and gone to keep a school."[1] Credaf oddiwrth Lawysgrifau Trefecca mai hwn oedd Dafydd William Rhys,[2] awdur Gorfoledd ym Mhebyll Seion, ac y mae'n ymddangos yn debig iawn hefyd mai hwn oedd Dafydd William, Llangyndeyrn, y sonnir am dano yng Nghofnodion Trefeca, yn 1743,[3] a ataliwyd i gynghori'n gyhoedd oni cheid tystiolaeth y Seiadau am dano. Bu'r emynydd yn trigiannu mewn amryw leoedd ym Morgannwg a Mynwy, eithr y mae'r ffaith ei eni, a'i fagu hyd oedran gŵr, yng Nghaerfyrddin, yn peri i mi ei gysylltu â'r sir honno.

Gellir bod dipyn yn bendant ar hanes meddwl a chymeriad yr emynydd; y mae hwnnw yn ei waith, eithr rhaid dyfalu peth am fore'i oes,—ei gychwyn a'i dyfiant. Ni wyddys yn sicr hyd yn oed flwyddyn ei eni. Dywed Mr. Morris Davies, Bangor, ei eni yn 1720.3 Eithr ar garreg

  1. Welsh Calvinistic Methodism, Williams, Abertawe, Arg. I., tud. 32.
  2. Gelwid ef yn Dafydd William Rhys i'w wahaniaethu oddiwrth Dafydd William, Llysfronydd, a elwid hefyd yn Dafydd William Dafydd.
  3. Y Traethodydd, 1872.