Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fedd ceid y geirian, "In memory of David Williams, who died 1st October, 1794, aged 82 years," ac er bod gwres ac oerni a glaw canrif a rhagor wedi treulio'r llythyrennau, gellid eu darllen yn 1910. Yn 1912 dadorchuddiwyd cofgolofn i'r emynydd yng Nghroesyparc, ac arni'r geiriau, Yr hwn a hunodd yn yr Iesu, Hydref 1, 1794, yn 82 mlwydd oed." Gosodwyd y gofgolofn ar fedd yr awdur gan Eglwysi Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg, a diau i bwyllgor y mudiad dderbyn tystiolaeth y garreg fedd ynglŷn â'r oed. Os derbynnir y dystiolaeth hon rhaid credu eni'r emynydd yn 1712. Ond y mae tystiolaeth arall bwysig. Yn 1777 cyhoeddwyd ail ran Gorfoledd ym Mhebyll Sion, sef prif lyfr emynau'r awdur, ac ar yr wyneb—ddalen dywedir, "a gyfansoddwyd gan Dafydd William . . . yn y 56 o oedran a thri mis." Cesglir yn naturiol oddiwrth y geiriau hyn eni'r emynydd yn 1720 neu 1721. Y mae'n bosibl i Dafydd William gyfansoddi emynau'r ail ran o Gorfoledd ym Mhebyll Sion wyth neu naw mlynedd cyn eu cyhoeddi.[1] O'r ochr arall, gwyddys na ellir dibynnu'n hollol bob amser ar yr oedran a osodir ar garreg fedd. Tueddir fi i dderbyn tystiolaeth wyneb-ddalen ail ran y "Gorfoledd," etc., a chredu eni Dafydd William yn 1720 neu 1721.

Y DEFFROAD MAWR.

Ni cheir dim sicr chwaith am adeg ail-eni'r emynydd. Yn y flwyddyn 1713 ganed Daniel Rowlands, Llangeitho, a Howel Harris yn 1714, a'r ddau hyn a ddefnyddiodd Duw i ddeffroi Cymru o'i chwsg moesol. Deuthai'r ddau i deimlo, fel proffwyd arall o'u blaen, "Ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio." Torrodd ystorm Duw ar y bryniau, fflachiodd mellt trwy gymoedd anwiredd, a rhuodd taranau tros fynyddoedd

  1. Sylwer mai "a gyfansoddwyd" a geir ar yr wynebddalen, ac nid "a argraffwyd neu a gyhoeddwyd."