Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llygredd. Tybir mai yn yr ystorm hon yr ail—aned Dafydd William, ac y rhoddwyd cân anfarwol yn ei galon a'i enau.

Ni wyddys ail i ddim o hanes yr awdur cyn cael ohono grefydd. Y mae'n debig na phenderfynir yn sicr byth. ymha le y cychwynnodd ei yrfa;[1] a pha mor aml ac hagr bynnag camweddau rhan gyntaf ei rawd, dilewyd hwy ers cenedlaethau. Gwrthyd amser gario diffygion meddylwyr mawr a dynion da ymhell. Pwy a ŵyr heddyw am bechodau Dafydd ap Gwilym a Dewi Sant? Athrylith a daioni sy'n byw o oes i oes. Dywedir yr enillai Dafydd ei damaid fel dilledydd, ac os ydoedd agos cystal dilledydd ag ydoedd a emynydd, rhaid bod byd da arno. Ofnaf nad ydoedd. Y byd a'i gwnaeth yn deiliwr, ond Duw a'i gwnaeth yn emynydd. Gwyddys am ambell un arall a fwriadwyd gan Ragluniaeth i safle bwysig oedd yn ateb. i'w ddawn a'i egni meddwl, eithr a rwymwyd gan y byd wrth orchwyl yn gofyn yn unig gorff grymus neu fysedd medrus.

YR EMYNYDD YN ATHRO YSGOL.

Gadawodd Dafydd William ei waith fel dilledydd a phregethwr yn Llanfynydd, ac aeth yn athro un o ysgolion y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Ni olygai hyn ei fod yn ysgolhaig gwych,—dim mwy nag y gwyddai ddigon i ddysgu'r bobl i "ddarllen y Beibl a llyfrau da eraill." Oherwydd perthynas agos amryw o'r hen emynwyr â Griffith Jones, a dyled fawr Cymru iddo, ni fydd gair am dano yn yr ysgrif hon yn amherthynasol â'i thestun.

Dyn godidog oedd y Parch. Griffith Jones, a dylai ei hanes fod yn llawer mwy hysbys. Ni ŵyr y werin fawr am dano er ei fod yn un o'i chymwynaswyr pennaf, onid y pennaf oll. Ni warafunir y lle mawr a roddir i goffadwriaeth Howel Harris, Daniel Rowlands, a Phantycelyn, prif alluoedd y Diwygiad Methodistaidd. Y mae dyled Cymru'n fawr i'r rhain; eithr dylid cofio y byddai'r tri

  1. Dadleuir tros dri lle, sef Llanymddyfri Llanfynydd a Llanedi. Y mae'r farn gryfaf o blaid Llanedi.