Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn yn amhosibl heb Griffith Jones,—mor ambosibl ag ydoedd Luther heb Erasmus. Llanddowror a roddodd Drefeca, Llangeitho, a Phantycelyn i Gymru. Y mae pob deffroad crefyddol mawr yn dilyn deffroad llenyddol. Dywed Enwogion y Ffydd mai'r tri a wnaeth "fwyaf i addysgu, coethi, a chrefyddoli Cymru o neb a fu o'u blaen nac ar eu hôl, hyd yn hyn," ydoedd y Dr. William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg; Griffith Jones, a sefydlodd Ysgolion Cylchynol Cymreig; a Thomas Charles, a sefydlodd yr Ysgol Sul yng Nghymru a'r Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor.[1]

Yr oedd Griffith Jones yn offeiriad ac yn un o bregethwyr mwyaf Cymru. Yr oedd yn llenor gwych, a chyhoeddodd amryw lyfrau gwerthfawr. Eithr cofir ef heddyw, a chofir ef tra y rhed Tywi, fel sefydlydd " Ysgolion Cylchynol Rhad " i'r bobl. Barnai gyflwr Cymru wrth dywyllwch a thrueni moesol ei blwyf ei hun, a chredai y dylid addysgu'r werin cyn y cai pregethu'r Efengyl afael a dylanwad yn y wlad. Sefydlwyd y gyntaf o'r ysgolion yn Llanddowror. Y cynllun o weithio ydoedd cyflogi nifer o ysgolfeistri, a'u hanfon ar hyd a lled y wlad. Aent o bentref i bentref, ac mewn amser dychwelent, weithiau trwy'r un pentrefi i ddysgu'r tô a dyfasai er eu hymweliad cyntaf, a thrwy eu hymdrechion diflannodd llawer o dywyllwch ac anfoesoldeb o'r tir. Cynorthwywyd Griffith Jones yn effeithiol gan Madam Bevan, ac i'w gofal hi y syrthiodd yr Ysgolion wedi marw'r sylfaenydd.

Y mae'n anodd onid yn amhosibl penderfynu'n derfynol berthynas yr emynydd â'r Ysgolion Cylchynol. Yn y Welch Piety, adroddiadau'r Ysgolion, anaml y rhoddir mwy na llythrennau dechreuol enw'r Ysgolfeistr, megis "M—R.—," neu "D—W—." Yn adroddiad 1746 ceir bod un "D—W—" yn athro yn Cwm-an-llwyd, in Kil-y-pebyll, in Glamorganshire." Yn 1747, yr oedd "D—W yn athro yn Trelales, ym Morgannwg.

  1. Enwogion y Ffydd, tud. 77.