Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelais hefyd y ddwy lythyren yn adroddiadau 1749, 1750, 1752 a 1776. Eithr nid oes brawf y golyga D— W— Dafydd William yr emynydd.

Y mae rhai ystyriaethau yn peri i mi gredu i Dafydd William ymsefydlu rhwng 1746 a 1760 yn ardal Llandeilo Fach, Gorseinion, a Llangyfelach. Yr oedd ganddo'n ddiddadl deulu yn y broydd hyn. Sonia Hopkin Bevan yn ei Hunangofiant am "Israel William, mab Dafydd William, Llandeilo Fach, awdwr y llyfr Hymnau a elwir Gorfoledd ym Mhebyll Seion, oedd yn byw yn Llangyfelach, ac yn aelod yn Society Goppa Fach," a dywed ymhellach bod gan Israel William blant ym Mryste yn 1808.[1]

Yr oedd ysgol o 43 o blant gan Griffith Jones yng Ngorseinion yn 1757—8, ac un arall o 40 o blant yng Ngroeseinon yn 1757-8, ac un arall o 40 blant "near Corse Eynon," ac y mae'n ddigon posibl mai Dafydd William oedd yr ysgolfeistr yno. Sonnir i'r emynydd symud i Faesaleg. Yr oedd nifer o Ysgolion gan Griffith Jones yn ardaloedd Maesaleg, yn 1758-9. Ac ni ddylid anghofio bod ganddo ysgolion yn Llandeilo, Talybont, yn 1740-1, ac yn Llanfynydd yn 1740-1, lleoedd y gwyddys y bu Dafydd William yn byw ynddynt. Y mae'n bosibl hefyd mai ef yw D—W—, Margam, yn 1762—3.

Gwyddys mai "Dafydd William, o blwyf Llandeilo Fach, Sir Forgannwg, gerllaw Pontarddulas," sydd ar wynebddalen Rhan Gyntaf Gorfoledd ym Mhebyll Seion. Argraffwyd hwnnw rhwng 1762 a 1764. Yno felly yr oedd cartref Dafydd yn y tymor hwn. Ar yr Ail Ran o "Gorfoledd," etc., a gyhoeddwyd yn 1777, "Dafydd William, gynt o Landeilo Talybont a geir.

Y mae, fodd bynnag, sicrwydd o gysylltiad yr emynydd fel athro â'r Ysgolion Cylchynol. Ysgrifennodd Joshua Thomas ei nodiadau ar Eglwys Croes-y-Parc yn niwedd 1794, ym mhen llai na dau fis wedi marw Dafydd William. Nid oes ddadl na adnabuai Joshua'r emynydd. Perthynai'r ddau'n ymarferol i'r un Gymanfa—Cymanfa Dde'r

  1. Hunanfywgraffiad, Y Parch. Hopkin Bevan, tud. 12, 14.