Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymeriad ac ysbryd y wraig, y mae'n amlwg ei bod yn bur llygadog, oblegid aiff cyfran fawr o'r byd i rywle trwy'r tŷ tafarn.

Ni ddywedir faint o gyfoeth a ddaeth i'r wraig trwy'r dafarn, eithr dywedir ddyfod trwyddi boen a helbul mawr i'w phriod. Er ei bod yn hollol gyfreithlon i bregethwr Methodus, hyd yn oed wedi ei ordeinio, gadw siop neu fferm, ni ellid cadw tafarn gan un a efengylai, a barnodd eglwys y Goppa'n ddoeth ddisgyblu'r bardd-bregethwr. Y mae'n wir yr ymddygai'r wraig yn gwbl groes i ewyllys y gŵr, a bu llawer ymryson galed rhyngddynt, eithr disgyblwyd, ef am y credai'r eglwys y dylai henadur "lywodraethu ei dŷ ei hun."[1]

YR EMYNYDD YN CEFNU AR Y METHODISTIAID.

Cefnodd yr emynydd ar y Methodistiaid ac ymunodd â'r Bedyddwyr, a gwyddys pa bryd. Y mae gennym hanes am dano yn Fedyddiwr yn 1777. Mewn ysgrif yn Seren Gomer, Tachwedd 1895, dywedir ei dderbyn gan y Bedyddwyr; iddo "gymeryd ei gladdu gyda Christ yn y bedydd bore Sul, Mehefin 29, 1777, yng ngwydd cannoedd lawer o edrychwyr. Y bedyddiwr oedd y Parch. Edmund Watkins, o Langwm." Ceir sicrwydd ei fod yn Fedyddiwr yn y Fro yn 1777, oblegid yr oedd yn un o'r pedwar ar ddeg a aeth i gyfamod i ffurfio eglwys i'r Bedyddwyr yng Nghroes-y-Parc yn y flwyddyn honno; ac yn yr eglwys hon y bu'n aelod a phregethwr cynorthwyol hyd ei farw. Cadwai ysgol yn Tre Witting, Llanbedr y Fro, yn yr wythnos, a phregethai'n yr eglwysi ar y Sul, ac yn y blynyddoedd cyntaf yn amlach yn Eglwys Croes-y-Parc nag unman arall. Gwnaed llawer cais i brofi paham yr ymunodd yr hen Drefnydd Calfinaidd â'r Bed-

  1. Ni wn am un sail i'r traddodiad hwn. Cofnodir ef yma oherwydd y derbynnir ef fel ffaith gan bawb a ysgrifennodd ar Dafydd William, ac y defnyddir ef i egluro rhai o weithredoedd pwysicaf yr emynydd. Ni ddylid rhoddi pwys mawr ar y traddodiad oni ddeuir o hyd i'w sail.