Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yddwyr. Y farn gyffredin ydyw mai loes y tramgwydd oherwydd ei ddiarddel gan eglwys Goppa Fach a barodd iddo gefnu ar y Methodistiaid. Y peth agosaf i dystiolaeth bersonol a phendant ar y mater ydyw'r geiriau a ganlyn:"Clywsom hen ŵr o Lanedi, Sir Gaerfyrddin, yr hwn sydd wedi marw er ys blynyddau bellach, yn dyweyd fod ei dad ef a Dafydd William yn gyfeillion mynwesol; ac yn ol tystiolaeth yr hen ŵr hwnnw y prif achos o ymadawiad yr hen brydydd â'i hoff gyfeillion y Trefnyddion oedd ei anghysur teuluaidd, yr hwn a achosid gan ei wraig, yr hon, fel y dywedir, oedd yn nodedig o ddiffaith ac anynad. . . . Er ei fod yn dra thebygol oddiwrth bob peth a glywsom ac a ddarllenasom am Dafydd William, ei fod yn ddyn duwiol, eto, darfu i'w drallod teuluaidd iselu cymaint ar ei gymeriad crefyddol yn y gymdogaeth yr oedd yn byw ynddi, nes ei ddwyn dan gerydd a disgyblaeth ei frodyr y Trefnyddion, a'r canlyniad fu iddo ymadael â hwynt yn ei hen ddyddiau."[1]

Tueddir fi i gredu oherwydd amryw resymau mai argyhoeddiad o gywirdeb athrawiaeth y Bedyddwyr ynglŷn â dull a deiliaid Bedydd a barodd i'r emynydd ymuno â hwy, ac nid tramgwydd oherwydd ei ddiarddel gan y Methodistiaid. A chaniatau iddo sorri wrth y Methodistiaid, paham yr ymunodd â'r Bedyddwyr? Mwy naturiol a haws o lawer fuasai iddo ymuno â'r Annibynwyr, sy'n gwahaniaethu oddi wrth y Trefnyddion Calfinaidd mewn ffurflywodraeth yn unig. Ofnaf hefyd na ellir dibynnu llawer ar stori'r diarddel gan eglwys Goppa Fach. Fel mater o ffaith, ni fu cymundeb yn Goppa Fach cyn 1791, o leiaf, ac yr oedd Dafydd William yn Fedyddiwr yn 1777. Y mae'n wir y gellir dadleu, os nad oedd Goppa. Fach ond cangen o eglwys yn nyddiau yr emynydd, y gellid ei ddiarddel gan yr eglwys honno, neu gan y Cwrdd Misol. Eithr ni ellir dadleu fel y dysgir yn gyffredin ei ddiarddel gan Goppa Fach. Nid wyf dueddol chwaith

  1. Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, Y Parch. J. T. Jones.