Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD I.

YR EMYN.

EIDDO crefydd ydyw'r Emyn erioed; pobl yn addoli sy'n ei arfer o'r dechreu, ac y mae o werth amhrisiadwy i genedl grefyddol a cherddgar fel y Cymry. Unir cynulleidfa ynddo'n llwyrach nag mewn dim arall. Trwyddo ef y rhed teimladau goreu'i hysbryd yn ffrwd o fawl i wrthrych addoliad. Mewn emynyddiaeth hefyd y diogelir hynny o undeb gwir sydd rhwng enwadau Cymru a'i gilydd. Yn y Llyfr Emynau ceir pob enwad, a phawb yn un o ran ysbryd a phrofiad.

Pa faint bynnag ydyw swm llwyddiant moesol ac ysbrydol ein cenedl ni, rhaid ei briodoli i'r emyn yn gymaint ag i ddim yn ei hanes. Dywedai'r Deon Howel (Llawdden) ein bod yn fwy dyledus am gyflwr crefyddol Cymru yn ystod y ddau can mlynedd diweddaf i Williams, Pantycelyn, nag i neb. "Nid oes," ebe fe," na dyn na dynes yn fyw sy'n cofio Daniel Rowlands, nac un Cymro o fil wedi darllen ei bregethau; ond y mae Williams yn dyfod yn ddylanwad crefyddol ehangach y naill flwyddyn ar ol y llall, yn ein gwlad ni ac mewn gwledydd eraill. Rhoddwch i ni gael dysgu emynau i blant y genedl am y deuddeg mlynedd cyntaf o'u hoes, a boed i'r neb a fynno eu dysgu a phregethu iddynt wedyn."

Yn yr emyn, y delyneg a'r englyn y rhydd beirdd Cymru eu goreu, ac yn y rhain y dylid eu hefrydu a'u barnu. Dysgir ni na fedd y meddwl Celtaidd rai o'r prif nodweddion a geir ym meddwl Homer a Milton. Y mae'r meddwl Celtaidd yn ddiffygiol o ran gwelediad