Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu ddychymyg, ac o ran cydbwysedd a dyfalbarhad. Y mae creu cyfandir yn fwy na'i oreu, a phe llwyddai i'w greu, blinai a methai cyn hanner ei gerdded. Cewri meddyliol y byd sy'n creu cyfandiroedd, a hwy yn unig a fedr eu teithio yn amlder eu grym. Y mae'n wir y ceir yn ein llenyddiaeth gyfansoddiadau maith ac enwog fel Cywydd y Drindod Dafydd Ionawr, ac Emanuel Hiraethog, eithr oherwydd eu meithter a'u medr y maent yn enwog, ac nid oherwydd ehangder gwelediad, a chydbwysedd, a llwyredd ymdriniaeth. Ceir hufen ein llenyddiaeth yn ein pethau byr, fel yr emyn, y gân, a'r englyn. Caneuon bychain a gerir gan y werin, a darnau'n unig o'r pryddestau a'r awdlau gorchestol sy'n boblogaidd. Nid llescedd meddwl sy'n llithio'r genedl oddiwrth y pryddestau a'r awdlau hir, eithr ei greddf a'i tywys at oreu'r awen Gymreig yn y gân a'r emyn.

Ffaith darawiadol arall ydyw nad y prifeirdd yw'r emynwyr. Anodd cyfrif am hyn. Cyn belled ag y gwyddys ni fu un bardd mawr mewn unrhyw wlad erioed yn enwog fel emynydd. Beirdd yr ail ddosbarth, fel Watts a Wesley, Williams, Pantycelyn, a Morgan Rhys, ydyw prif emynwyr yr Eglwys. Y mae'n wir bod Cowper yn fardd mawr, ac iddo gyfansoddi llawer o emynau, eithr un ohonynt sy'n anfarwol, sef "God moves in a mysterious way." Y mae rhai o'r prifeirdd Cymreig, megis Islwyn, Alun ac Emrys wedi cyfansoddi un neu ddau emyn a fydd byw byth, eithr nid hwy ydyw emynwyr y genedl.

Anodd egluro anhepgor—nôd angen, y gwir emyn. Pe llwyddid i wneuthur hynny, hwyrach y ceid mesur o eglurhad paham nad ydyw'n etifeddiaeth y prifeirdd. Y mae pob emyn da yn syml a dirodres, yr iaith yn gyffredin heb fod yn sathredig, a'r cyferbyniadau a'r cymariaethau'n hawdd i'w deall a'u gwerthfawrogi. I fod yn ymarferol fel cyfrwng addoliad pob dosbarth o grefyddwyr y mae'n rhaid i emyn fod yn syml, heb ei feichio â barddoniaeth na chelf. Prif ddiffyg llawer o'r emynau diweddar ydyw