Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu harddull lenyddol; ceir rhai ymhob llyfr emynau wedi eu saernïo mor llyfn a chywrain nes trengi ohonynt cyn i'r werin eu dysgu.

Un prawf o gyfriniaeth yr emyn ydyw'r ceisiadau lluosog a wnaed i'w ddeffinio. Ystyr y gair emyn," ebe Caledfryn, "yw caniad fer o fawl. Dylai emyn gynnwys llawenydd a moliant." Eithr ceir llu o delynegion sy'n cyfateb i ddeffiniad Caledfryn. Eglurhad y bardd Tennyson ydyw: "Y mae emyn da y peth anhawddaf yn y byd i'w gyfansoddi; mewn emyn rhaid cael y cyffredin (commonplace) a'r barddonol; yr eiliad y peidia â bod yn gyffredin, fe beidia â bod yn emyn." Diau bod hyn i gyd yn yr emyn, eithr dylid cael rhywbeth mwy. Oni cheir y rhywbeth mwy ni ellir ei wahaniaethu oddiwrth y delyneg a'r bryddest, yn y rhai y ceir llawer o'r cyffredin a'r barddonol. Sonia Paul mewn dau o'i lyfrau am salmau a hymnau, ac odlau ysbrydol, a dywed yr Archesgob Trench, yn ei lyfr ar Gyfystyron y Testament Newydd, bod y gair salmau o wreiddair yn golygu cyffyrddiad, ac yna aiff yn gyffyrddiad y bysedd â thannau telyn, neu ryw offeryn cerdd arall. Yn ol Trench y mae i'r salm berthynas agos â thelyneg. Hanfod emyn ydyw mawl—i'w ganu, i wron neu dduw, ac y mae odlau'n golygu pob math ar ganeuon,—caneuon rhyfel, a gwyliau, a gwleddoedd. Rhoddwyd y salm i'r Eglwys gan yr Hebrewr, yr emyn gan y Groegwr, a gwnaeth yr Eglwys y gân yn eiddo iddi'i hun trwy ei hysbrydoli. Ymddengys mai hyn yw'r gwahaniaeth, neu'r prif wahaniaeth, rhwng salm, emyn, a chân,—y mae i salm berthynas agos ag offerynnau cerdd, yn arbennig y delyn; prif nôd emyn ydyw mawl i Dduw, eithr nid ydyw cân o angenrheidrwydd i'w chysylltu â'r tannau, nac yn cynnwys mawl i Dduw.

Yn ol y darnodiadau hyn nôd angen emyn ydyw mawl, ac y mae'n rhaid i'r mawl hwn fod yn ddigon eang i gynnwys meddyliau, a theimladau, a dymuniadau sy'n ogoniant i Dduw. Gellir mynegi mewn emyn bob teimlad