Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweddus i addoliad, eithr rhaid gochel teimladau chwerw, a dialgar, ac eithafol ofidus. Ni ellir canu'r rhain. Teimladau glân a santaidd fel tristwch a gobaith a llawenydd ydyw eiddo emyn.

Ceir cannoedd o emynau da yn canu'n araf ac wylofus tan bwysau baich o dristwch am oes ar ol oes, a chwydda'u Cân swm mawl a gogoniant yr oesoedd i Dduw.

Y mae'n ddiogel dysgu mai profiad ysbrydol awenydd santaidd yn cymryd ffurf arbennig ydyw emyn. Rhaid cael bardd santaidd i'w gynhyrchu, ac nid bardd mawr. Ni wyddys am ddim yn gwahardd credu mai dynion santaidd wedi'u cynhyrfu gan yr Ysbryd Glân ydoedd prif emynwyr Cymru. Os gwedir hyn, pa fodd i gyfrif am tebygrwydd salm yr Hebrewr i emyn y Cymro fel cyfrwng mawl? Tywallt allan ei brofiad yn ffrydiau gloyw tan arweiniad yr Ysbryd a wnai'r Hebrewr yn ei Salmau, a gwna'r emynydd Cymreig yntau yn ei emynau yr un peth, tan arweiniad yr un Ysbryd. Y mae dirgelwch yr arddeliad sydd ar yr emynau goreu ym mherthynas awenyddiaeth ac ysbrydoliaeth ynddynt. Hyn sy'n cyfrif bod emynau mawr yn gorfyw cyfnewidiadau, ac yn teithio'n ddianaf o lyfr i lyfr ar hyd yr oesoedd. Dyma hanes yr emynwyr hwythau. Cyfansoddai Ann Griffiths ei hemynau pan fyddai rhywbeth neilltuol ar ei meddwl. . . . Y mae ei hemynau a'i llythyrau yn ddrych tra eglur o ansawdd ysbrydol ei chrefydd."[1] Y mae'n rhaid i fardd y bryddest a'r awdl, yn ogystal a bardd y pethau bychain, gael ysbrydiaeth newydd i gyfansoddi emyn da. Cyngor Pantycelyn i gyfansoddwyr emynau ydyw, "Peidio gwneud un hymn byth nes y byddont yn teimlo eu heneidiau yn agos i'r nef, tan awelon yr Ysbryd Glân." Ni ddaw'r eneiniad wrth orchymyn uchelgais. Cenir emyn am fod yn rhaid ei ganu, ac nid i ennill clod gwlad. Yn ychwanegol at awen a gwybodaeth, y mae'n rhaid bod yn gyfoethog yn y profiadau ysbrydol sy'n weddus a naturiol i filoedd o addolwyr amrywiol. Gwelir bellach

  1. Cofiant a Llythyrau Ann Griffiths. Y Parch. John Hughes.