nad bardd mawr, ond bardd santaidd, tan gynyrfiadau oddi uchod, a fedr gyfansoddi emyn anfarwol. Sylwer ar y tri emyn a ganlyn i'r Ceidwad:
Dy werthfawr waed, tywalltwyd hwn
Do, dros y rhai'n, fel fyth y caent
Fwynhad ohonot ti'n ddidwn,
Hyn a dim mwy ei geisio maent.
Fafasor Powell (Cyf. W. Richard).
Mi ymdreiglaf yn fy ngwendid,
At Iachawdwr dynolryw,
Dyna enw'n cynnwys digon
I bechadur gwael gael byw;
Os nad allaf fi ei gyrraedd,
Gall efe fy nghyrraedd i,
Ac, os unwaith yn ei afael,
Dyna hawl i'r nefoedd fry.—Eben Fardd.
Dyma Geidwad i'r colledig,
Meddyg i'r gwywedig rai;
Dyma un sy'n caru maddeu
I bechaduriaid mawr eu bai;
Diolch iddo
Byth am gofio llwch y llawr.—Morgan Rhys.
Yn y cyntaf ceir dyn da heb ddim awen, yn yr ail ceir bardd mawr heb ysbrydoliaeth, ac yn yr olaf ceir bardd bach tan eneiniad yr Ysbryd Glân.
O ddilyn hanes y prif emynau ceir mai yn awyrgylch brwd, llawn trydan, Diwygiadau nerthol y cyfansoddwyd hwy, pan oedd gweithrediadau'r Ysbryd Glân megis tân. Eithr nid ydyw popeth a gyfrifir yn Ddiwygiad, na phob Diwygiad gwir, yn cynhyrchu emynwyr. Ni red dylanwadau pob Diwygiad i'r un cyfeiriad, ac ni chronnant yn yr un dosbarthiadau. Llifai dylanwadau'r Diwygiad Methodistaidd i lawer cyfeiriad, a lefeiniwyd meddwl a chalon y tlawd a'r cyfoethog, yr anneallus a'r diwylliedig, yr annoeth a'r doeth. Diau y gellir cyfrif